Jump to content
Cerdyn gweithiwr gofal
Share

Cynhyrchwyd y cerdyn i gydnabod rôl allweddol gweithwyr gofal wrth gefnogi unigolion ym mhob cymuned yng Nghymru.

Beth yw Cerdyn Gweithiwr Gofal?

Mae’n gerdyn sy’n cydnabod gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru fel gweithwyr allweddol ac yn rhoi mynediad i fuddion amrywiol. Nid yw’n gerdyn cofrestru.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y cerdyn hwn?

Unrhyw un sy’n cael ei gyflogi mewn rôl ofal yng Nghymru, p'un a ydyn nhw wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ai peidio. Mae’n cynnwys y rheini sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar, myfyrwyr gwaith cymdeithasol,

gwarchodwr plant

a swyddi eraill, fel cynorthwywyr personol neu ofalwyr maeth. Mae gweithwyr gofal yn gymwys i gael y cerdyn, beth bynnag yw eu patrwm gweithio neu oriau dan gontract. Mae hyn yn golygu bod y rhai ar gontractau sero oriau yn dal yn gymwys ar ei gyfer.

Pa weithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sy'n gymwys i gael cerdyn?

Mae gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn gymwys i gael y cerdyn os ydynt:

  • yn gweithio mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae cofrestredig Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW)
  • fel arfer yn gweithio mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae cofrestredig CIW, ond maent bellach yn gweithio mewn canolbwynt awdurdod lleol
  • yn gweithio fel gweithiwr Dechrau'n Deg neu gydag unrhyw wasanaeth ymyrraeth gynnar arall i'r awdurdod lleol neu sefydliad elusennol / trydydd sector sy'n golygu bod yn rhaid iddynt deithio y tu allan i'w cartref. * Sylwch nad yw hyn yn cynnwys y rhai sy'n cael eu hystyried fel gweithwyr ieuenctid.

A yw'r Cerdyn Gweithiwr Gofal yn amnewid y Cerdyn Gweithiwr Gofal Cymdeithasol?

Ydi, mae o. Dyma’r fersiwn nesaf o’r Cerdyn Gweithiwr Gofal Cymdeithasol a oedd yn ddilys tan 1 Mai 2021 yn unig. Dylech ddileu'r cerdyn digidol cyfredol o'ch waled ffôn clyfar a thorri'r cerdyn plastig i fyny. Bydd yr enw ychydig yn wahanol hefyd – y Cerdyn Gweithiwr Gofal – i adlewyrchu’r ffaith ei fod ar gael i’r rheini mewn rolau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Pa fath o gerdyn ydyw?

Mae'r Cerdyn Gweithiwr Gofal ar gael fel cerdyn digidol yn unig. Mae yna sawl rheswm am hyn. Dau o'r prif resymau yw: ei wneud yn fwy diogel a'i gwneud hi'n haws anfon deunydd cyfathrebu at ddeiliaid cardiau ynglŷn â’r cerdyn a'r buddion sydd ar gael.

Beth yw buddion y cerdyn?

Cerdyn arian-yn ôl o Discounts for Carers: byddwch yn gallu defnyddio'ch Cerdyn Gweithiwr Gofal i brofi'ch cyflogaeth yn y sector gofal yng Nghymru i wneud cais am gerdyn arian-yn-ôl ar wefan Discounts for Carers. Gellir defnyddio hwn i gael arian-yn-ôl ar bryniannau gan 35 o fanwerthwyr.

Llinell gymorth llesiant gan y Samariaid: Llinell gymorth gyfrinachol yw hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Ar gael saith diwrnod yr wythnos, mae wedi'i gynllunio i helpu staff i brosesu pwysau emosiynol yr hyn maen nhw'n mynd drwyddo a'i brofiadau, dim ots pa swydd maen nhw'n ei gwneud. Bydd gwirfoddolwyr y Samariaid yn cynnig clust wrando anfeirniadol, lle diogel i ddadlwytho a byddant yn rhannu gwybodaeth am ffynonellau cymorth eraill. Mae'r llinell - 0800 484 0555 - ar gael rhwng 7am ac 11pm bob dydd. Mae llinell Gymraeg - 0808 164 2777 - hefyd ar gael rhwng 7pm ac 11pm bob nos.

Byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch diweddaru am unrhyw fuddion newydd y mae gennych hawl i.

Beth am amseroedd siopa ffafriol mewn archfarchnadoedd?

Bydd y buddion canlynol yn dal i fod ar gael i’r rheini sydd â chardiau. Serch hynny, gall y manylion penodol newid wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau llacio. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â'r archfarchnadoedd a byddwn yn ceisio cadw'r rhain mor gyfoes â phosibl.

Tesco – byddwch yn gallu mynd i flaen y ciw gyda’ch cerdyn.

Marks and Spencer – gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth archebu ar-lein i gadw slot yn y siop, felly does dim angen i chi giwio.

Waitrose - byddwch yn cael mynediad â blaenoriaeth i siopau Waitrose a’r tils heb orfod ciwio.

Sainsbury’s – nawr yn cynnig mynediad â blaenoriaeth i ddeiliaid cardiau.

Aldi – bydd eich cerdyn yn rhoi mynediad â blaenoriaeth i chi i siopau Aldi.

Ym mhob archfarchnad, gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos eich Cerdyn Gweithiwr Gofal, yn ogystal â ID gyda llun, os oes angen.

Sut mae cofrestru ar gyfer cerdyn digidol newydd?

Ewch i dudalen tanysgrifio'r Cerdyn Gweithiwr Gofal, lle gofynnir rhai cwestiynau syml i chi.

Gofynnir i chi i ddechrau a ydych chi wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd y gweithwyr sydd ar ein Cofrestr yn cwblhau'r broses trwy fewngofnodi i'w cyfrif, bydd angen i'r rhai sydd heb gofrestru ar hyn o bryd ddarparu rhai manylion syml. Ar ôl i chi gwblhau'r broses cofrestru syml, anfonir e-bost atoch a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i lawrlwytho'r cerdyn digidol i mewn i'ch waled ffôn clyfar. O fewn cwpl o funudau, bydd eich cerdyn digidol yn eich waled ac yn barod i'w ddefnyddio.

Sut mae cael cerdyn arian-yn-ôl gan Discounts for Carers?

Process cael y cerdyn arian yn ol

Dilynwch y camau syml hyn:

  1. Ar eich ffôn clyfar neu’ch gliniadur/cyfrifiadur, ewch i’r e-bost yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer Cerdyn Gweithiwr Gofal. Cliciwch y ddolen i arbed y cerdyn i’ch waled. Nawr fe welwch ddelwedd o’ch Cerdyn Gweithiwr Gofal, tynnwch sgrinlun o’r ddelwedd gyfan i’w gadw i’ch dyfais.
  2. Ewch i wefan Discounts for Carers www.discountsforcarers.com/socialcarewales Cofrestrwch ar gyfer gwefan Discounts for Carers trwy ateb ychydig o gwestiynau syml
  3. Ar hafan Discounts for Carers ewch i’r adran am y cerdyn arian yn ôl, neu teipiwch y ddolen hon:www.discountsforcarers.com/carers-cashback-card
  4. Llenwch y ffurflen ar y dudalen cofrestru ar gyfer y cerdyn arian yn ôl.Yna byddwch yn cyrraedd sgrin sy’n dweud ‘confirm your carer status’. I gadarnhau eich statws gofalwr, uwchlwythwch y sgrinlun o’ch Cerdyn Gweithiwr Gofal a gymerwyd gennych ar y dechrau fel tystiolaeth eich bod yn gweithio mewn gofal.

Sut mae cymryd ac arbed sgrin-lun o'r cerdyn ar fy ffôn clyfar?

Ar iPhone:

  • Gwasgwch y botwm cartref a’r botwm pŵer ar yr un pryd.
  • Ar y mathau sydd heb fotwm cartref, gwasgwch y botwm pŵer a’r botwm diffodd sain.

Ar ffôn Android:

  • Gwasgwch y botwm pŵer a’r botwm diffodd sain ar yr un pryd.
  • Os nad yw hynny’n gweithio, ceisiwch wasgu’r botwm pŵer a’r botwm cartref ar yr un pryd neu ceisiwch sweipio eich llaw i’r chwith neu’r dde ar draws y sgrin.
  • Fel arall, darllenwch lyfryn cyfarwyddiadau eich ffôn, sydd fel arfer i'w gael ar eich ffôn neu drwy weithgynhyrchwr eich ffôn.

Alla i wneud cais am gerdyn arian-yn-ôl os nad oes ffôn clyfar gen i?

Gallwch wneud cais am gerdyn arian yn ôl ar wefan Discounts for Carers heb ffôn clyfar os oes gennych gyfeiriad e-bost (personol neu fusnes), a mynediad i’r we. Mae hyn oherwydd y gallwch chi dal lawrlwytho delwedd o'r Cerdyn Gweithwyr Gofal ar linadur neu gyfrifiadur, trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn:

Ar liniadur/cyfrifiadur Windows:

  • I arbed sgrin-lun sgrin-llawn: Botwm Windows + PrtScn
  • I arbed sgrin-lun ar ffenest unigol: Botwm Windows + Alt + PrtScn

Ar Mac:

  • I arbed sgrin-lun sgrin-llawn: Command + Shift + 3
  • I arbed sgrin-lun ar ffenest unigol: Command + Shift + 4, gwasgwch y botwm Space, yna cliciwch ar y ffenest rydych eisiau ei thynnu
  • Arbed sgrin-lun o ddetholiad: Command + Shift + 4, yna dewiswch yr ardal rydych eisiau ei thynnu gyda chyrchwr y llygoden.


Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gael cerdyn arian-yn-ôl?

Oherwydd nifer y ceisiadau a ddisgwylir, gall gymryd saith diwrnod i gael e-bost yn cadarnhau eich bod wedi cael eich derbyn am gerdyn a hyd at 28 diwrnod i dderbyn y cerdyn ei hun.

Beth os nad oes gan bobl ffôn clyfar?

Rydym yn credu y bydd gan y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol mynediad i ffôn clyfar, a gyflenwir gan eu cyflogwr neu eu dyfais eu hunain.

A oes cost i'r cerdyn arian-yn-ôl gan Discounts for Carers?

Nid oes unrhyw ffi pan fyddwch chi'n gwneud cais am y cerdyn arian yn ôl, ond bydd angen i chi ychwanegu £5 at eich cyfrif. Ar ôl i chi gael y cerdyn arian yn ôl am flwyddyn, a phob blwyddyn ar ôl hynny, bydd £ 2.99 yn cael ei dynnu o'r balans sydd gennych chi ar eich cerdyn. Mae manylion costau eraill ar gael ar wefan Discounts for Carers.

Sut y byddwch yn sicrhau bod y cerdyn hwn yn cael ei gydnabod gan archfarchnadoedd, yr heddlu a sefydliadau eraill?

Ynghyd â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r heddlu, manwerthwyr a darparwyr trafnidiaeth i'w hannog i gydnabod y cerdyn hwn.

Mae'r cerdyn yn cael ei hyrwyddo gennym ni ein hunain trwy nifer o sianeli cyfathrebu, Llywodraeth Cymru a llawer o'n partneriaid sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Beth os oes problem lawrlwytho’r cerdyn digidol?

Os na allwch chi lawrlwytho'r cerdyn digidol, cysylltwch â ni yn cerdyngweithiwrgofal@gofalcymdeithasol.cymru

Sut rydych chi’n codi ymwybyddiaeth o’r cerdyn?

Gofynnir i reolwyr ar ein Cofrestr roi gwybod i aelodau o’r timau sydd heb gofrestru gyda ni. Gofynnir hefyd i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, unigolion sydd â chyfrifoldeb a phenaethiaid gwasanaethau i'n helpu i ledaenu gwybodaeth am y cerdyn i weithwyr gofal yn eu sefydliadau neu wasanaethau comisiwn sydd heb gofrestru gyda ni.

Byddwn hefyd yn hyrwyddo’r cerdyn yn ein e-fwletinau a thrwy ein cyfryngau cymdeithasol.

Ynghyd â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r heddlu, manwerthwyr a darparwyr trafnidiaeth i'w hannog i gydnabod y cerdyn hwn.

Mae'r cerdyn yn cael ei hyrwyddo gennym ni ein hunain trwy nifer o sianeli cyfathrebu, Llywodraeth Cymru a llawer o'n partneriaid sy'n ymwneud â gofal yng Nghymru.

A all gofalwyr sydd ddim yn cael eu talu cael cerdyn?

Na. Mae’n gerdyn ar gyfer pobl sy’n cael eu cyflogi mewn rolau gofal yng Nghymru yn unig.

Pa mor ddiogel yw'r cardiau?

Mae’r cardiau digidol yn cael eu dosbarthu mewn ffordd ddiogel y gellir eu rheoli. Mae gennym gofnod o’r holl weithwyr gofal sy’n lawrlwytho’r cerdyn. Byddem yn argymell, os ydych yn defnyddio’r cerdyn i gael mynediad at fuddion, y dylech fod yn barod i gyflwyno math o ID gyda llun, fel trwydded yrru neu pàs eich gweithle. Bydd hyn yn caniatáu i sefydliadau wirio eich hunaniaeth, os oes angen.

Gwybodaeth bellach

Os nad yw’r wybodaeth a roddir uchod yn darparu’r ateb(ion) oeddech chi’n edrych amdanynt, e-bostiwch cerdyngweithiwrcymdeithasol@gofalcymdeithsaol.cymru

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.