Jump to content
Ariannu gradd gwaith cymdeithasol
Share

Dyma wybodaeth am y bwrsariaethau rydyn ni'n eu cynnig a chymorth ariannol arall sydd ar gael.

Bwrsariaeth gwaith cymdeithasol

Mae 224 o fwrsariaethau gwaith cymdeithasol ar gael. Er mwyn derbyn bwrsariaeth gwaith cymdeithasol, rhaid i chi fodloni tri amod sylfaenol;

Os ydych chi'n bodloni yr amodau hyn ac yn cael cynnig i astudio mewn prifysgol yng Nghymru, gall y brifysgol eich enwebu i wneud cais am fwrsariaeth.

Sut mae'r broses ymgeisio yn gweithio

Er mwyn sicrhau bod y broses ariannu yn deg, dyrennir nifer penodol o fwrsariaethau i bob rhaglen gwaith cymdeithasol.

Yna bydd y rhaglenni gwaith cymdeithasol yn enwebu detholiad o'u myfyrwyr, y byddwn yn gofyn iddynt gwblhau cais bwrsariaeth ar GCCar-lein.

Ein nod yw asesu ceisiadau cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl eu derbyn. Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus ac yn anfon gwybodaeth atynt am amserlenni talu.

Er sylw, rhaid cofrestru fel myfyriwr gwaith cymdeithasol er mwyn derbyn bwrsariaeth.

Nid yw enwebiad yn unig yn gwarantu bwrsariaeth, rhaid i ni asesu pob cais a dderbyniwn.

Adnewyddu cais bwrsariaeth

Bydd angen i fyfyrwyr adnewyddu eu bwrsariaeth ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf gan ddefnyddio eu cyfrif GCCar-lein.

Byddwn yn anfon gwahoddiad e-bost ym mis Mehefin at y myfyrwyr hynny sy'n gorfod adnewyddu.

Bydd y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu yn newid bob blwyddyn.

Pa fwrsariaethau sydd ar gael?

Os ydych chi’n fyfyriwr a dechreuodd ei astudiaethau gradd mewn gwaith cymdeithasol yn y flwyddyn academaidd 2021 i 2022 neu’n gynt, mae’r bwrsariaethau yma ar gael o hyd:

  • £7,500 (£3,750 y flwyddyn am y ddwy flynedd olaf o’i astudiaethau) neu
  • £3,750 am y flwyddyn olaf o’i astudiaethau ar gyfer myfyrwyr llawn amser y Brifysgol Agored.

Os ydych chi’n fyfyriwr a dechreuodd ei astudiaethau gradd meistr gwaith cymdeithasol yn y flwyddyn academaidd 2021 i 2022 neu’n gynt, mae’r fwrsariaeth nad yw ar sail asesiad incwm yma ar gael o hyd:

  • £12,715 am y flwyddyn olaf o’i astudiaethau.

Bwriad y £12,715 yw cyfraniad tuag at eich costau ffioedd dysgu a chostau byw.

Am fwy o wybodaeth, cymerwch gip ar y Cynllun cyllid bwrsariaeth gwaith cymdeithasol ar gyfer 2022 i 2023 (ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau).

Pa fwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr newydd yn 2022 i 2023?

Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dechrau ei astudiaethau gradd mewn gwaith cymdeithasol yn y flwyddyn academaidd 2022 i 2023, mae’r bwrsariaethau yma ar gael:

  • £11,250 (£3,750 y flwyddyn am dair blynedd) neu
  • £7,500 (£3,750 y flwyddyn am ddwy flynedd) ar gyfer myfyrwyr llawn amser y Brifysgol Agored.

Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dechrau ei astudiaethau gradd meistr gwaith cymdeithasol yn y flwyddyn academaidd 2022 i 2023, mae’r fwrsariaeth nad yw ar sail asesiad incwm yma ar gael:

  • £25,430 (£12,715 y flwyddyn am ddwy flynedd).

Am fwy o wybodaeth, cymerwch gip ar y Cynllun cyllid bwrsariaeth gwaith cymdeithasol ar gyfer 2022 i 2023 (ar gyfer myfyrwyr newydd).

Ni all myfyrwyr ôl-raddedig wneud cais ar gyfer benthyciad ôl-raddedig os ydyn nhw’n derbyn y bwrsariaeth gwaith cymdeithasol.

Help tuag at gostau lleoliad

Cymorth ariannol tuag at gostau lleoliad ydi Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA).

Mae pob myfyriwr gwaith cymdeithasol sy'n derbyn bwrsariaeth yn gymwys i gael PLOA. Gall myfyrwyr rhan-amser hefyd dderbyn PLOA am unrhyw flwyddyn y maent ar leoliad.

Bydd y lwfans cychwynnol yn dibynnu ar hyd a lefel eich lleoliad.

Rydyn ni'n talu'r PLOA cyntaf cyn i chi ddechrau eich lleoliad.

Ad-dalu costau uwchlaw'r PLOA

Os bod costau teithio eich lleoliad yn uwch na'r PLOA, gallwch gael ad-daliad.

I hawlio ad-daliad, rhaid i chi ddangos sut y gwariwyd eich PLOA ar y lleoliad. I hawlio costau ychwanegol, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth a dangos sut maen nhw'n cysylltu â'r lleoliad.

Gallwch hawlio am gostau teithio cyhoeddus neu breifat a chostau parcio neu gostau llety.

Sut i lenwi ffurflen hawlio teithio

I hawlio treuliau sydd dros y PLOA, rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio teithio.

Ar y daflen dreuliau dyddiol cwblhewch un rhes ar gyfer pob diwrnod o'ch lleoliad. Dechreuwch gyda'r diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn helpu i ddangos sut y gwnaethoch chi wario'r PLOA, yn ogystal â phrofi costau ychwanegol.

Rydym yn asesu ffurflenni hawlio teithio o fewn 20 diwrnod gwaith. Byddwn yn e-bostio i ddweud wrthych os oedd yr hawliad yn llwyddiannus a phryd y bydd taliad yn cael ei wneud. Byddwn yn talu unrhyw ad-daliad i'ch cyfrif banc.

Sut i lenwi ffurflen gais am lety

Os yw lleoliad mor bell i ffwrdd o'ch cartref fel nad yw'n fforddiadwy nac yn synhwyrol teithio bob dydd, efallai y gallwch hawlio costau llety.

Rhaid i chi allu dangos bod angen y costau hyn arnoch i wneud eich lleoliad.

Rhaid i fyfyrwyr gael ein cytundeb cyn llofnodi unrhyw gytundebau rhentu neu aros mewn Gwely a Brecwast. I wneud hyn, mewngofnodwch i'ch cyfrif GCCar-lein a chwblhewch a chyflwynwch y ffurflen cais am lety.

Grantiau a lwfansau eraill

Lwfansau i fyfyrwyr Meistr

Mae myfyrwyr meistr sydd eisoes wedi derbyn bwrsariaeth gwaith cymdeithasol hefyd yn gallu hawlio Grantiau a Lwfansau a Asesir Incwm (IAGA).

Mae IAGA yn dibynnu a yw incwm eich cartref yn is na'r lefel a benderfynwyd gennym ni. Mae'r grantiau a'r lwfansau canlynol ar gael:

  • Grant oedolion ‘dibynyddion’ - £2,645
  • Lwfans dysgu rhieni - £1,505
  • Grant gofal plant.

Myfyrwyr ag oedolyn dibynnol

Mae rhai myfyrwyr yn gyfrifol yn ariannol am ddibynnydd sy'n oedolyn. Priod, partner sifil neu bartner sy'n cyd-fyw yw hwn fel rheol. Os ydych chi, bydd y swm a ddyfernir yn dibynnu ar eich incwm. Pan fyddwch chi'n gwneud cais, bydd angen i chi roi manylion am eich amgylchiadau a gwybodaeth am y person dibynnol.

Rhieni sy'n astudio

Mae rhai myfyrwyr yn gyfrifol yn ariannol am blant o dan 16 oed neu, o dan 18 oed mewn addysg amser llawn. Os ydych chi, gallwn gyfrannu tuag at gostau llyfrau ac offer yn ystod y flwyddyn. Mae'r swm a ddyfernir yn dibynnu ar eich incwm ac incwm eich dibynyddion.

Grant gofal plant

Os oes gennych blant mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy, efallai y gallwch gael y grant gofal plant. Mae'r swm a ddyfernir yn cael ei asesu gan incwm. Gallwch gael:

  • un plentyn - hyd at £8,330 y flwyddyn
  • dau neu fwy o blant - hyd at £14,285 y flwyddyn.

Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu os ydych am wneud cais am IAGA. Os yw'n briodol, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais ar-lein.

Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)

Gall myfyrwyr anabl wneud cais am lwfans tuag at gostau astudio. Mae hyn yn cynnwys costau am offer arbenigol neu gynorthwyydd anfeddygol. Mae'r lwfans ar gael i fyfyrwyr a fydd â chostau ychwanegol yn unig oherwydd anabledd neu anhawster dysgu.

Bydd cymhwysedd yn cael ei asesu gan berson sydd â phrofiad arbenigol. Mae wedi ei wneud mewn canolfan asesu annibynnol neu ym mhrifysgol neu goleg yr ymgeisydd.

Nod yr asesiad hwn yw paru anghenion ymgeisydd â'r cyfleusterau sydd ar gael ar y cwrs.

Bydd angen cynnwys tystiolaeth o'ch anabledd os yn gwneud cais am DSA. Gall hwn fod yn llythyr gan feddyg neu arbenigwr.

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw ddiagnosis ffurfiol, bydd angen i chi wneud hynny cyn gwneud cais. Ni allwn dalu costau gwneud diagnosis o'ch anabledd.

Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu os ydych am wneud cais am DSA. Os yw'n briodol, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais ar-lein.

Darparwyr ariannu eraill

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, fe allech chi wneud cais am gyllid gyda'r Student Loans Company neu Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os ydych chi'n byw yn Lloegr, fe allech chi wneud cais am gyllid gydag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.