Yn ystod ansicrwydd Covid-19 mae rhai lleoliadau gofal plant wedi bod yn llai tebygol o ddarparu lleoliadau i ddysgwyr. Dyma arweiniad ac adnoddau i ddarparwyr dysgu a dysgwyr gefnogi gweithio diogel yn ystod y pandemig.
Pam fod lleoliad dysgu yn bwysig
Mae lleoliadau gwaith yn rhan bwysig o’r system gymwysterau yng Nghymru gan ei fod yn caniatáu i ddysgwyr ddangos eu bod yn gallu ymarfer mewn ffordd ddiogel.
Mae darparwyr gofal plant yn cynnig lleoliadau dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr gan eu helpu i ddeall yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn ymarferol.
Beth yw buddiannau lleoliadau dysgu?
Gall cynnig lleoliadau dysgu ddarparu nifer o fuddion i’r lleoliadau a dysgwyr.
Ar gyfer darparwyr gofal plant:
- Dod i gysylltiad â chronfa o weithwyr posib o’r gymuned
- Cyfrannu at ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithlu medrus iawn
- Myfyrio ar adborth a sylwadau gan ddysgwyr
- Adolygu safonau ac arferion yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfredol ac o ansawdd da
- Tynnu sylw at yr ystod o rolau sydd ar gael
- Ysgogi pobl i weithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae neu flynyddoedd cynnar a gofal plant fel gyrfa o ddewis
- Hyrwyddo'ch gwasanaeth eich hun a'r hyn sydd ganddo i'w gynnig
- Cefnogi datblygiad eich gweithlu eich hun trwy fentora.
Ar gyfer dysgwyr:
- Cael dysgu drwy brofiad ac asesu ymarfer wrth eich gwaith er mwyn i chi allu cyflawni’r rhan ymarferol o gymwysterau gwaith.
- Arddangos sgiliau ymarferol ar gyfer asesu
- Rhoi cynnig ar amrywiaeth o leoliadau gwaith
- Dysgu am ystod o rolau a fydd yn eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus am eich gyrfa yn y dyfodol
- Magu hyder, datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau a allai arwain at gyflogaeth
- Datblygu sgiliau ymarfer myfyriol
- Rhoi adborth i gyflogwyr sy'n eu helpu i wella arfer yn y lleoliad gwaith.
Canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru
Mae Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel Llywodraeth Cymru yn manylu ar sut y mae lleoliadau gofal plant yn gwarchod plant a staff rhag coronafeirws.
- gellir ystyried y rhai ar leoliadau gwaith neu ddysgwyr sy’n mynychu’n rheolaidd fel ‘staff’ at ddibenion canllawiau Covid-19, ond dylid ystyried lleoliadau dysgu bob amser o safbwynt cymarebau staff ac ati gan gofio Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir.
- Mae staff y darparwr dysgu – er enghraifft aseswyr a thiwtoriaid – wedi’u cynnwys yn y rhestr o “ymwelwyr angenrheidiol” i leoliadau gofal plant. Dylai dysgwyr ddilyn canllawiau, mesurau diogelwch a pholisïau lleol a roddwyd ar waith gan eu darparwr dysgu a'u darparwr lleoliad (y lleoliad).
Dylai lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant weithio gyda'r darparwr dysgu a'r dysgwyr i benderfynu a yw lleoliad yn bosibl. Gall hyn olygu na all rhai lleoliadau ddarparu amgylchedd dysgu addas sy'n cwrdd â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, diffyg lle i sicrhau pellter dau fetr rhwng staff neu nad oes digon o oriau o ddarpariaeth.
Beth all darparwyr a dysgwyr ei wneud cyn lleoliad dysgu
Mae darparwyr dysgu a dysgwyr yn cymryd camau ychwanegol yn ystod Covid-19 i sicrhau bod dysgwyr, a phlant a staff mewn lleoliadau yn ddiogel.
Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gall dysgwyr a lleoliadau ei wneud cyn lleoliadau dysgu:
Asesiad risg dros y ffôn
Gall darparwyr dysgu, dysgwyr a rheolwr/arolygydd cofnodi/arweinwyr gael sgwrs dros y ffôn cyn i’r lleoliad dysgu gychwyn.
Gall darparwyr dysgu gynnal asesiad risg dros y ffôn a rhannu’r asesiad risg gyda’r lleoliadau.
Gall lleoliadau rannu eu polisïau, eu gweithdrefnau a’r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan ddysgwyr mewn perthynas â rheoli ac atal heintiau yn ddigidol.
Yr asesiad risg hwn i ddarparwyr dysgu ei lenwi cyn i leoliad dechrau yn ystod Covid-19. Gall darparwyr dysgu gysylltu â lleoliadau cyn i’r lleoliad dysgu y cytunwyd arno gychwyn er mwyn cynnal yr asesiad risg.
Rhestr wirio i helpu trafodaethau:
Gellir defnyddio’r rhestr wirio hon i helpu trafodaethau rhwng darparwyr dysgu, dysgwyr a lleoliadau.
- Arfer gorau ar olchi dwylo
- Gwisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol (PPE)
- Arwyddion a Symptomau Covid-19 a beth i’w wneud ynghylch achosion cadarnhaol neu bosibl a hunan ynysu
- Trafodaethau ynghylch pellter cymdeithasol tu mewn i’r lleoliad ac aros yn saff tu allan i’r lleoliad. Goblygiadau dod â firws i’r lleoliad.
- Teithio yn ôl ac ymlaen i’r lleoliad
- Gwisg myfyriwr – newid yn y lleoliad, gwisg sbâr, gwisg lân.
- Beth i’w wneud os yw plentyn neu aelod o staff yn dangos arwyddion a symptomau yn y lleoliad.
- Cyfrinachedd pan fydd achosion positif yn y lleoliad (e.e. dylid cadw gwybodaeth iechyd personol unigolion yn gyfrinachol)
- Arferion glanhau a glanedyddion diheintio a ddefnyddir a’u rôl o ran Atal a Rheoli Heintiau
- Swigod a chynnal swigod yn y lleoliad (aros gyda’r un grwpiau o blant a staff)
- Mannau a rennir fel toiledau a cheginau / ystafelloedd staff
- Asesiad risg o leoliadau a phwysigrwydd tynnu sylw at unrhyw bryderon diogelwch i staff ac arweinwyr
- Rhestr wirio a chanllawiau cyn lleoliad dysgu
- Manylion personol y myfyriwr a gadwir yn y lleoliad gan gynnwys manylion cyswllt y tu allan i oriau
- Manylion cyswllt yr arweinwyr yn ystod y dydd a gyda’r nos pe bai ganddynt unrhyw bryderon ynghylch symptomau neu eu bod wedi bod mewn cysylltiad ag achos positif (manylion perthynas agosaf y myfyriwr mewn argyfwng ac ati).
Helpu dysgwyr i gadw’n ddiogel ac amddiffyn eraill
Gall dysgwyr hunanofalu er mwyn gwarchod eu hunain ac eraill.
Mae’n bwysig bod dysgwyr yn cadw eu hunain yn ddiogel cyn ac yn ystod y lleoliad dysgu. Dylai dysgwyr:
- dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chanllawiau lleol Covid-19 i gadw’r rheini sydd ar leoliad yn ddiogel.
- llwytho a defnyddio’r ap profi ac olrhain Covid-19 y NHS.
Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer lleoliadau gofal plant:
Mae angen meddwl yn ofalus cyn derbyn dysgwr ar leoliad, yn arbennig yn ystod y pandemig presennol. Dyma restr o bethau all eich helpu i barhau gyda lleoliadau a chydymffurfio gyda chanllawiau Covid-19 ar yr un pryd.
Rheoli swigod
Mae dysgwyr yn cael eu hystyried fel staff at ddibenion lleoliad. Cynhwyswch ddysgwyr mewn swigod penodol o fewn ystafelloedd/timau er mwyn galluogi cyn lleied o gyswllt â phosib.
Blaenoriaethu ystodau oedran ar gyfer cwblhau’r asesiad
Ar gyfer dysgwyr sy’n cwblhau mwy nag un ystod oedran, blaenoriaethwch leoliadau dysgu o fewn ystodau oedran penodol ar gyfer y rhai sydd angen cwblhau asesiad ffurfiol.
Lleoliadau bloc
Gostyngwch y risg o haint trwy adael i’r dysgwr fod mewn un lle am nifer o wythnosau, gan leihau cyswllt ag eraill y tu allan i’r lleoliad yn hytrach na lleoliad dysgu 2/3 diwrnod yr wythnos dros fwy o amser.
Dyma rhai astudiaethau achos gwirioneddol i gynorthwyo lleoliadau dysgu.
Adnoddau i gefnogi lleoliad diogel
Efallai y gallai darparwyr lleoliad gwaith gynnig cyfleoedd hyfforddi cyn lleoliad gwaith er mwyn cefnogi dysgwyr i dderbyn lleoliad gwaith mewn gweithle.
Dylai dysgwyr lawrlwytho ap profi ac olrhain yr NHS.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.