Jump to content
Gwrandawiadau i ddod
Share

Bydd manylion gwrandawiadau sydd i ddod yn ymddangos yma saith diwrnod cyn i'r gwrandawiad gael ei gynnal.

Gall pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y wasg a'r cyhoedd arsylwi gwrandawiadau terfynol cyhoeddus y Panel Addasrwydd i Ymarfer. Cynhelir rhai gwrandawiadau yn breifat os oes tystiolaeth yn cael ei hystyried na ddylid ei gwneud yn gyhoeddus. Dim ond canlyniad y gwrandawiadau yma fydd yn cael eu cyhoeddi.

Os hoffech chi arsylwi gwrandawiad, cysylltwch â ni ar 02920 780640 neu trwy e-bostio gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru.

Os ydych chi'n arsylwi gwrandawiad, cofiwch:

  • cynhelir pob gwrandawiad trwy Zoom. Bydd angen mynediad at ddyfais gyda'r rhyngrwyd i arsylwi ar y gwrandawiad. Byddwn ni’n anfon y ddolen Zoom atoch chi pan fyddwch yn cadarnhau eich presenoldeb
  • mewngofnodwch o leiaf 15 munud cyn i'r gwrandawiad dechrau i osgoi unrhyw oedi i'r gwrandawiad
  • os byddwch chi’n mewngofnodi ar ôl i'r gwrandawiad dechrau, ni fyddwch yn gallu ymuno â'r gwrandawiad nes bod egwyl
  • fel arsylwr, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad a gofynnir i chi gadw'ch meic yn fud
  • os byddwch chi’n tarfu ar y gwrandawiad mewn unrhyw ffordd, gall y cadeirydd ofyn i chi adael y gwrandawiad neu gallwn ni eich dileu
  • gellir canslo neu ohirio gwrandawiadau ar fyr rybudd – byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fydd hyn yn digwydd
  • cynhelir gwrandawiadau yn gyhoeddus, ond gallwn ni a'r person cofrestredig ofyn i wrandawiad cyfan neu ran ohono gael ei gynnal yn breifat. Bydd y Panel yn ystyried y ceisiadau hyn ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os cynhelir y cyfan neu unrhyw ran o wrandawiad yn breifat, ni fyddwch yn gallu ei arsylwi.

Dim gwrandawiadau i ddod…