Jump to content
Diweddariadau cymwysterau a safonau ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr
Share

Diweddariadau, gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr ar gymwysterau a safonau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae, dysgu a datblygu.

Cael mynediad at gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a chymwysterau chwarae, dysgu a datblygu gofal plant oherwydd Covid-19 – Hydref 2022

Mae effaith Covid-19 yn golygu fod rhai dysgwyr yn cymryd hirach i gwblhau eu fframweithiau cymwysterau a phrentisiaeth. Mae ôl-groniad o ddysgwyr yn gweithio tuag at eu cymwysterau a'u fframweithiau ac mae rhai cyflogwyr wedi cael problemau’n cael mynediad at gymwysterau newydd a lleoedd prentisiaeth ar gyfer eu gweithwyr. Ond mae darparwyr dysgu wedi ymrwymo i gynnig eu cefnogaeth:

  • bu cynnydd yn nifer yr aseswyr sy'n cael mynediad at lleoliadau i arsylwi dysgwyr a chasglu tystiolaeth, ac mae cyflogwyr wedi cefnogi dysgwyr i gwblhau'r tasgau asesu perthnasol
  • mae nifer y rhai sy’n cwblhau’r fframwaith prentisiaethau wedi codi ers mis Medi 2022 a bydd hyn yn rhyddhau amser darparwr dysgu i gefnogi dysgwyr newydd.
  • dylai’r mynediad i leoedd cymhwyster a phrentisiaeth gynyddu yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Gallwch holi eich darparwr dysgu arferol am gyngor am leoedd neu gallwch gysylltu ag un o brif ddeiliaid contract prentisiaethau Llywodraeth Cymru am wybodaeth. Yn ogystal, mae cyfleuster chwilio ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru lle gallwch chwilio am ddarparwyr dysgu yn eich ardal.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig