Jump to content
Defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
Share

Darganfyddwch pam ei bod yn bwysig defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith a beth rydym yn ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Pam ei bod hi’n bwysig defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle?

Drwy wella sgiliau iaith Gymraeg, gwybodaeth a dealltwriaeth y gweithlu o ddwyieithrwydd, rydym ni’n gallu cynnig gwasanaethau gofal gwell i bawb.

Mae manteision defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle’n cynnwys:

  • dileu’r perygl o ynysu unigolion drwy fethu â darparu gwasanaethau yn yr iaith maen nhw’n ei ffafrio
  • osgoi cwynion posibl am wasanaethau Cymraeg gwael neu ddiffygiol yn cael eu gwneud i Gomisiynydd y Gymraeg
  • sicrhau safonau cydraddoldeb drwy ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg
  • asesu anghenion unigol drwy gyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu dewis iaith hyrwyddo enw da eich sefydliad drwy gynnig gwasanaeth dwyieithog.

Polisi a deddfwriaeth iaith Gymraeg

Yn dilyn deddfwriaeth a datblygiadau mewn polisi iaith, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ganddynt drefniadau staffio cymesur, priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaeth gofal dwyieithog.

Mae deddfwriaeth bellach yn sefydlu Safonau Iaith newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Safonau Iaith hyn yr un mor berthnasol i gyrff, asiantaethau, cwmnïau a sefydliadau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol.

Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i wasanaethau Cymraeg mewn gofal cymdeithasol fod:

  • o'r un safon ac ar gael mor rhwydd a phrydlon â gwasanaethau Saesneg
  • mor eang a thrylwyr
  • ni ddylai sefydliadau dybio mai Saesneg yw'r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
  • ni ddylai fod angen i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth yn Gymraeg.

Dyma rai dolenni defnyddiol i safonau, cynllunio ac ymwybyddiaeth Cymraeg. Gwybodaeth am hawliau, cynlluniau iaith Gymraeg, ac arweiniad i gefnogi darparu gwasanaeth dwyieithog.

Beth yw 'Mwy na geiriau'?

‘Mwy na geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei nod yw

  • sicrhau bod anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
  • darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rhai sydd ei angen
  • dangos bod iaith yn chwarae rhan bwysig o ran ansawdd gofal ac nad yw'n cael ei ystyried yn “ychwanegiad”.

Dyma ddull rhagweithiol o ran dewis ac angen iaith yng Nghymru, sy’n rhoi'r cyfrifoldeb dros sicrhau gwasanaethau Cymraeg ar ddarparwyr gwasanaethau yn hytrach na’r unigolyn sy'n defnyddio’r gwasanaethau.

Mae gan y rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ran i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i bedwar grŵp blaenoriaeth y mae gwasanaethau Cymraeg yn arbennig o bwysig iddynt. Sef:

  • plant
  • pobl hŷn
  • pobl ag anableddau dysgu.
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r grwpiau blaenoriaeth hyn yn arbennig o agored i niwed os na fyddan nhw’n derbyn gofal yn yr iaith o’u dewis.

Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?

Ystyr ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr gymaint â’r Saesneg.

Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.

Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.

Sut i asesu sgiliau iaith Gymraeg

Mae'r adnodd 'Sgiliau Iaith Gymraeg yn eich gweithlu - eu defnyddio'n effeithiol' wedi ei gynllunio i gefnogi 'Mwy na Geiriau' trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr nodi pa lefel sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithwyr.

Mae'r adnodd hwn yn cynnwys hunanasesiad sy'n gweithio allan sgiliau pobl wrth siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg o'r sylfaenol i'r rhugl. Mae pob lefel yn bwysig ac mae mawr ei angen yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi datblygu pecyn ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n seiliedig ar egwyddorion 'Mwy na Geiriau'.

Mae'r pecynnau hyn yn helpu gwneud defnydd effeithiol o sgiliau iaith fel y byddech ag unrhyw sgil arall yn y gweithle, er budd a lles pobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau.

Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog

Datblygwyd adnodd newydd ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ i gefnogi hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ac ar gyfer pobl sydd mewn addysg bellach neu addysg uwch.

Nod yr adnoddau

  • helpu'r hyfforddwr sy'n cyflwyno i ddysgu am ymwybyddiaeth iaith wrth annog trafodaethau ar y ffordd orau i weithio'n ddwyieithog
  • addysgu a grymuso dysgwyr a gweithwyr ar sut i gynnig gwasanaeth gwerthfawr i ddefnyddwyr gwasanaeth gan sicrhau bod iaith bob amser yn ystyriaeth ganolog
  • ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant ‘mewn swydd’ neu sefydlu ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r adnodd hwn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pôb sleid. Cysylltwch â ni os na allwch chi lawrlwytho'r cyflwyniad hwn.

Mwy o adnoddau i’ch helpu

Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein am ddim ar gyfer dechreuwyr sydd wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes gofal. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i gael sgwrs wyneb yn wyneb cychwynnol yn Gymraeg â’r bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

Mae Sgiliaith (Grwp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arfer da, hyfforddiant staff ac adnoddau, i wella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng Cymraeg. Mae ganddyn nhw adnoddau i gefnogi dysgwyr sydd â'r cymwysterau CCPLD a HSC newydd ac maen't yn cynnig cyrsiau 'Prentis-iaith' i brentisiaid sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd. Maent yn galluogi prentisiaid i gwblhau rhan o'u cymhwyster HSC / CCPLD yn Gymraeg.

Mae cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn swigen oren yn dangos eich bod yn siarad Cymraeg.

Cyfieithu, prawfddarllen a therminoleg

Os ydych chi'n chwilio am wasanaeth cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd, ewch i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gael rhestr o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd a'u manylion.

Dyma rai geiriaduron ar-lein Cymraeg i'ch helpu chi i ddysgu gwella'ch geirfa:

Mae Termau yn borth terminoleg Saesneg i Gymraeg a Chymraeg i Saesneg.

Pecyn meddalwedd gyda dwy raglen yw Cysgliad. Cysill, sy'n nodi ac yn cywiro gwallau iaith yn eich dogfennau Cymraeg a geiriadur elecronig ydi Cysgair.

Helo Blod – gwasanaeth cyfieuthu a gwirio testun.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi casglu llawer o dermau sydd wedi cael eu defnyddio'n gyffredin yn ystod y pandemig ac wedi cynhyrchu geiriadur bach o dermau coronafeirws a ddefnyddir amlaf yn Gymraeg. Nod yr adnodd yw helpu siaradwyr i siarad ac ysgrifennu am y clefyd yn eu mamiaith.

Apiau ar gyfer dysgu

Dyma rai Apiau Cymraeg atyniadol ar gyfer dysgu, sydd ar gael ar IOS ac Android.

Mentrau Iaith

Mentrau Iaith Cymru (MIC) yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi gwaith 22 o Mentrau Iaith lleol ledled Cymru.

Eu rôl yw codi ymwybyddiaeth o'r iaith a diwylliant Cymraeg, trwy annog pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a'u defnydd o'r iaith a gallu ymarfer eu sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol yn y gymuned.

Yr Iaith Gymraeg - ymchwil, technoleg, dysgu a chefnogaeth

Canolfan Bedwyr yw Canolfan gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg Cymraeg Prifysgol Bangor.

Mae datblygu sgiliau iaith Cymraeg yn helpu i ddatblygu hyder myfyrwyr, staff a chyflogwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Crëwyd adnoddau enwau lleoedd i gynorthwyo i ddarganfod a gwirio bodolaeth enwau Cymraeg ar gyfer lleoedd Saesneg ac i'r gwrthwyneb.

Mae Technoleg lleferydd yn dechnoleg iaith lleferydd sydd â'r gallu i greu lleferydd dynol ac ymateb iddo (testun i leferydd a'i hadnabod)

Hyfforddiant

Sefydlwyd Canolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg i ddarparu hyfforddiant Cymraeg gyda chyfoeth o hyfforddiant ar gael ar-lein, cyrsiau byr, apiau a llawer mwy.

Bwletin rhithwir ar gyfer adnoddau Cymraeg

Mae hysbysfwrd rhithwir adnoddau Cymraeg ar gael ar Padlet.com sydd yn cynnwys adnoddau hyfforddi, adnoddau i ddysgwyr, gweithgareddau, apiau, cerddoriaeth, swyddi a llawer iawn mwy i'ch cefnogi chi i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

Adnoddau addysgol

OpenLearn Cymru: Cartref dysgu dwyieithog, am ddim yng Nghymru - adnodd i unrhyw un sy'n dymuno gwybod mwy am gymdeithas a diwylliant Cymru ac mae'n dwyn ynghyd gasgliad o adnoddau addysgol am ddim sy'n berthnasol i Gymru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.