Jump to content
Sut mae gwrandawiadau'n gweithio
Share

Pan godir pryder am berson cofrestredig gellir ymchwilio iddo. Os yw'r dystiolaeth yn dangos y gall y person cofrestredig fod yn risg i'r cyhoedd os byddant yn parhau i weithio, efallai y byddwn yn gofyn i wrandawiad gael ei gynnal. Dyma wybodaeth am y gwahanol fathau o wrandawiadau, yr hyn sy'n digwydd mewn gwrandawiad a sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir.

Beth yw gwrandawiad

Gwrandawiad yw cyfarfod ffurfiol lle mae panel o bobl yn edrych ar y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o ymchwiliad i bryder a godwyd ynghylch ymddygiad unigolyn cofrestredig.

Bydd panel y gwrandawiad yn penderfynu a ddylai'r person cofrestredig barhau i weithio mewn gofal cymdeithasol ai peidio.

Gellir cynnal gwrandawiadau yn gyhoeddus neu'n breifat. Gofynnir i'r person cofrestredig fynychu fel y gellir clywed eu tystiolaeth hefyd, mae hyn yn sicrhau bod yr holl dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r ymchwiliad wedi'i edrych arno yn ofalus a theg.

Gall aelodau'r cyhoedd, y cyfryngau a'r wasg ddim ond mynychu gwrandawiadau cyhoeddus.

Pa wrandawiadau rydyn ni'n eu cynnal

Gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer

Mae gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn edrych ar achosion lle mae amhariad ar addasrwydd i ymarfer person cofrestredig, mae hyn yn golygu efallai na fyddant yn gweithio i'r safonau uchel a ddisgwylir ganddynt fel y nodir gan y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Dyma restr o'r gwrandawiadau sydd i ddod a chanlyniadau'r gwrandawiadau.

Mae Rheolau Gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer yn egluro'r broses y mae'n rhaid i ni ei dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl gwrandawiad Panel Addasrwydd i Ymarfer, a sut y dylid cynnal gwrandawiad. Os cyfeirir achos atom ni ar neu ar ôl 1 Hydref 2022, byddwn yn defnyddio rheolau 2022.

Os cyfeiriwyd achos atom ni rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2022 yn gynhwysol, byddwn yn defnyddio Rheolau 2020.

Os cyfeiriwyd achos atom rhwng 1 Ebrill 2018 a hyd at 31 Mawrth 2020 yn gynhwysol byddwn yn defnyddio Rheolau 2018.

Os cyfeiriwyd achos atom rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018 yn gynhwysol, byddwn yn defnyddio Rheolau 2017.

Os cyfeiriwyd achos atom rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2017 yn gynhwysol, byddwn yn defnyddio Rheolau 2014.

Gwrandawiadau gorchmynion dros dro

Mae'r panel gorchmynion dros dro yn penderfynu a ddylid gosod gorchymyn dros dro ar gofrestriad person cofrestredig os ydynt yn credu eu bod yn berygl i'r cyhoedd, neu ei fod o fudd i'r cyhoedd tra bo ymchwiliad yn digwydd.

Ceir dau gwahanol fath o orchmynion y gellir eu gosod, sef orchmynion atal dros dro, neu gorchymyn cofrestru amodol dros dro.

Mae Rheolau Gorchymyn Dros Dro yn egluro'r broses y mae'n rhaid i ni ei dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl gwrandawiad neu gyfarfod Panel Gorchmynion Dros Dro, a sut y dylid cynnal gwrandawiad neu gyfarfod. Os cyfeirir achos atom ni ar neu ar ôl 1 Hydref 2022, byddwn yn defnyddio rheolau 2022.

Os cyfeiriwyd achos atom rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2022 yn gynhwysol, byddwn yn defnyddio Rheolau 2020.

Os cyfeiriwyd achos atom rhwng 1 Ebrill 2018 a hyd at 31 Mawrth 2020 yn gynhwysol, byddwn yn defnyddio Rheolau 2018.

Os cyfeiriwyd achos atom rhwng 1 Ebrill 2017 a hyd at 31 Mawrth 2018 yn gynhwysol, byddwn yn defnyddio Rheolau 2017.

Gwrandawiadau apeliadau cofrestru

Os gwrthodwyd cais gweithiwr i gofrestru neu adnewyddu cofrestriad gennym, gallant apelio'n penderfyniad. Bydd yr apêl yn cael ei ystyried gan y Panel Apeliadau Cofrestru.

Gall y panel;

  • cadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol
  • gwneud penderfyniad arall
  • ei hanfon yn ôl atom gyda chyfarwyddiadau ar sut y dylem ei setlo.

Gwahoddir yr ymgeisydd neu'r person cofrestredig i fynychu'r gwrandawiad i egluro'n bersonol pam eu bod yn teimlo y dylid gymeradwyo eu cais. Gallant hefyd gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad hwn.

Mae Rheolau Panel Apeliadau Cofrestru 2018 yn egluro'r broses y mae'n rhaid i ni ei dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl gwrandawiad Panel Apeliadau Cofrestru, a sut y dylid cynnal gwrandawiad ac mae'n cynnwys pa gamau y gall y Panel eu cymryd. Mae'r rheolau hyn yn weithredol o 1 Hydref 2022.

Mae rheolau 2020 yn berthnasol i apeliadau a wnaed rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2022, yn gynhwysol.

Mae rheolau 2018 yn berthnasol i apeliadau a wnaed rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2020, yn gynhwysol.

Bod yn dyst mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer

Mewn rhai gwrandawiadau, gall Gofal Cymdeithasol Cymru neu berson cofrestredig ofyn i rywun fynychu'r gwrandawiad fel tyst.

Tyst yw rhywun a fydd yn ateb cwestiynau'r panel am yr honiad neu bryder i gefnogi naill ai Gofal Cymdeithasol Cymru neu dystiolaeth y person cofrestredig.

Paneli clywed a'u rolau

Bydd panel yn penderfynu ar ganlyniad y gwrandawiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynir iddynt.

Mae gan banel bob amser dri o bobl arno er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael ei gwneud trwy bleidlais. Penodir aelodau'r panel am bedair blynedd, ond gallant wneud cais i gael eu hailbenodi am bedair blynedd arall ond ni allant eistedd am fwy nag wyth mlynedd.

Mae'r rheolau hyn yn egluro sut y dylai paneli fod yn edrych, ac am ba hyd y penodir aelodau. Maent yn gymwys i achosion a gyfeiriwyd atom ar 1 Hydref 2022 neu ar ôl hynny.

Mae Rheolau 2020 yn gymwys i achosion a gyfeiriwyd yn gynwysedig rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2022.

Mae Rheolau 2017 yn gymwys i achosion a gyfeiriwyd yn gynwysedig rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2020.

Yma mae restr o holl fuddiannau aelodau ein panel ac rydym ni'n ei adolygu bob blwyddyn.

Pwy sy'n bresennol yn y gwrandawiadau?

Pan fydd gwrandawiad yn digwydd efallai y bydd nifer o bobl yn bresennol. Maent yn cynnwys;

  • y panel
  • cynghorydd cyfreithiol - ni allant bleidleisio dim ond cynghori'r panel ar faterion cyfreithiol a sicrhau bod y gwrandawiad yn deg. Pan fydd y panel yn trafod achos, dim ond yr ymgynghorydd cyfreithiol fydd gyda hwy.
  • cynghorydd meddygol - os yw'r panel yn ystyried tystiolaeth feddygol, mae'r cynghorydd meddygol yn rhoi cyngor i'r panel ar faterion meddygol.
  • clerc - ni allant bleidleisio ond sicrhau bod gwrandawiadau'n rhedeg yn esmwyth ac yn gwneud yn siŵr bod y penderfyniadau'n cael eu hanfon at y person cofrestredig a bod y Gofrestr yn cael ei ddiweddaru, os bydd angen, y clerc yw'r prif bwynt cyswllt i bawb sy'n mynychu gwrandawiad.

Pobl eraill a all fod yn bresennol

  • cyflwynydd - sy'n cyflwyno'r achos i'r panel. Gall y person hwn fod yn gyfreithiwr
  • swyddog addasrwydd i ymarfer - a oedd yn ymchwilio i'r honiadau ac yn cynghori'r cyflwynydd
  • y person cofrestredig - y mae'r achos yn ymwneud â hi
  • cynrychiolydd - i gefnogi a chyflwyno achos yr unigolyn cofrestredig i'r panel
  • y cyhoedd - gan gynnwys y wasg a'r cyfryngau. Dim ond ar gyfer gwrandawiadau terfynol y Panel Addasrwydd i Ymarfer y gall y cyhoedd fod yn bresennol, os cynhelir y gwrandawiad yn gyhoeddus.

Gwybodaeth a gyhoeddwn

Mae'r Polisïau a Gweithdrefnau Rheoleiddio’r Gweithlu hwn yn nodi'r math o wybodaeth y byddwn yn ei chynnwys ar ein Cofrestr a'r amser y bydd yn aros yn ar y Gofrestr.

Mae hefyd yn nodi’r wybodaeth y byddwn yn cynnwys ar ein rhestr o bobl a dynnir oddi ar y Gofrestr a’r wybodaeth ar ein wefan am wrandawiadau addasrwydd i ymarfer.

Sut i apelio ar benderfyniad gwrandawiad

Os yw person cofrestredig am apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan banel, dylent gysylltu â'r Tribiwnlys Safonau Gofal (Haen Gyntaf).

Bydd terfyn amser ar gyfer pryd y gellir gwneud apêl, felly dylai person cofrestredig gysylltu â hwy cyn gynted ag y bo modd ar ôl ein gwrandawiad.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.