Cadeirydd y Bwrdd, ymddeolodd Mick Giannasi o wasanaeth yr heddlu ym mis Ebrill 2011, ar ôl gyrfa lwyddiannus o dros 31 mlynedd. Derbyniodd Fedal Heddlu’r Frenhines am ei gyfraniad i blismona yn 2011. Ar ôl ymddeol o Wasanaeth yr Heddlu yn 2011, penodwyd Mick gan Lywodraeth Cymru i weithredu fel Comisiynydd ar gyfer Cyngor Ynys Môn. O fis Medi 2013 hyd fis Ebrill 2018, Mick oedd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cafodd ei anrhydeddu â CBE yn 2018 fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, Mick yw Cadeirydd y Panel Arolygu Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol sydd wedi’i sefydlu gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhan o ymyrraeth Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Morgannwg Cwm Taf.