Jump to content
Personau cofrestredig sydd wedi eu hatal dros dro
Share

Gellir atal person cofrestredig dros dro o'r Gofrestr wrth i ni ymchwilio i honiadau neu bryderon nad ydynt wedi'u profi eto. Bydd y person cofrestredig yn cael ei atal dros dro os oes angen, er mwyn amddiffyn y cyhoedd, er budd y cyhoedd neu er budd y person cofrestredig. Gelwir yr ataliadau hyn yn orchmynion atal dros dro. Mae ataliad dros dro yn golygu na all y person cofrestredig weithio mewn rol gofal cymdeithasol a rheoleiddir yng Nghymru.

Ni all y cyfnod penodol ar gyfer gorchmynion atal dros dro fod yn fwy na 18 mis. Rhaid adolygu pob gorchymyn atal dros dro bob 6 mis.

Rhestr yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor.