Jump to content
Sut rydym yn delio â phryderon
Share

Fel rhan o’n cyfrifoldeb i sicrhau fod gan weithwyr gofal cymdeithasol ar y Gofrestr y sgiliau, gwybodaeth a chymeriad i gyflawni eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol, rydym yn ymchwilio i bryderon sy’n cael eu codi am bobl gofrestredig.

Beth sy’n bryder?

Pryder yw pan mae amheuaeth a yw person cofrestredig yn gwneud ei waith yn ddiogel, effeithiol ac yn unol â’r Cod Ymarfer Proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau sy'n digwydd y tu allan i'r gwaith. Os rydych chi’n credu y gallai hyn fod yn wir, yna gallwch chi gyfeirio’r person hwnnw atom ni trwy godi pryder.

Pa bryderon gallwn ni ymchwilio?

Mae esiamplau o’r mathau o bryderon y gallwn ni ymchwilio yn cynnwys:

Diffygion mewn perfformiad proffesiynol

  • annonestrwydd neu gam-drin ymddiriedaeth rhywun
  • diffyg cwrdd â safonnau disgwyliedig
  • cyflawni twyll
  • ceisio cuddio camgymeriadau neu rwystro ymchwiliad
  • ddim yn dilyn polisi a gweithdrefnau.

Gweithrediadau sy’n rhoi eraill mewn perygl

  • perthynas amhriodol hefo rhywun sy’n defnyddio gwasanaethau
  • ecsbloetio person bregus
  • cam-drin sylweddau
  • ymddygiad treisgar neu fygythiol
  • problem iechyd nad yw’r person cofrestredig wedi dweud wrthym ni amdano, a allai fygwth diogelwch y rheiny maent yn eu cefnogi.

Gweithrediadau gallai tanseilio hyder y cyhoedd yng ngofal cymdeithasol

  • dim parchu hawliau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth
  • ymddygiad gallai niweidio eraill neu danseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.

Pryderon na allwn ymchwilio

Ni allwn ymchwilio i bryderon ynghylch:

  • a sefydliad (yn lle, cysylltwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru)
  • rhywbeth sydd wedi digwydd mwy na pum mlynedd yn ôl, oni bai bod ymchwiliad er budd y cyhoedd
  • proses disgyblu sefydliad: ni allwn ddisgyblu rhywun, eu diswyddo neu newid canlyniad ymchwiliad disgyblu
  • anghytundeb ag unrhyw beth a godwyd yn y llys neu benderfyniad llys
  • gweithiwr gofal cymdeithasol sydd ddim wedi cofrestru gyda ni.

Sut i godi pryder

Gall unrhyw un godi pryder gyda ni, cyn belled â’u bod yn rhoi’r manylion sydd eu hangen arnom i’w ystyried ymhellach.

Gellir codi pryderon drwy gwblhau a chyflwyno’r ffurflen ar-lein.

Dylai cyflogwyr sydd am godi pryder am weithiwr ddarllen cyflogwyr sydd am godi pryder am weithiwr.

Fel rhan o ymchwilio ymhellach i’ch pryder bydd yr wybodaeth rydych chi’n darparu yn cael ei brosesu yn unol â rheolau diogelu data. Gellir ei rannu ag asiantau eraill, gan gynnwys:

Trwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych chi’n rhoi caniatâd i’r wybodaeth gael ei ddefnyddio fel rhan o’n cyfrifoldebau cyfreithiol.

Beth sy’n digwydd ar ôl i bryder cael ei godi?

Pan fydd pryder am weithiwr yn cael ei godi gyda ni, byddwn yn ystyried os yw'n cyrraedd y trothwy risg ac ei fod yn math o fater y gallwn ymchwilio iddo.

Os yw'n rhywbeth y gallwn ymchwilio, byddwn yn hysbysu'r person cofrestredig am yr honiadau. Gallant barhau i weithio oni bai ein bod yn dweud wrthyn nhw fel arall.

Os fyddwn yn asesu pryder fel risg uchel i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, byddwn naill ai yn:

  • ceisio cael gorchymyn i atal gweithiwr cofrestredig rhag gweithio, neu
  • rhoi amodau ar waith y mae'n rhaid eu bodloni tra bod ein ymchwiliad yn parhau.

Byddwn bob amser yn asesu risg a sut mae'n cael ei reoli gan gyflogwyr neu wasanaethau eraill.

Er enghraifft, os mae gweithiwr cofrestredig eisoes yn treulio dedfryd o garchar, byddem yn eu hasesu fel risg uchel. , Mae’r risg i ddefnyddwyr gofal a chymorth yn cael ei reoli gan y gwasanaeth carchardai, felly mae'n bosib na fyddwn yn ceisio gorchymyn atal dros dro.

Byddwn yn eu diweddaru bob wyth wythnos nes bod yr ymchwiliad wedi'i gwblhau a'u bod yn cael gwybod am y canlyniad.

Pan fyddwn wedi gorffen ein hymchwiliad, edrychwn ar sut i gau’r achos. Gallwn benderfynu peidio â chymryd camau pellach, neu gallwn ddefnyddio pwerau swyddogion fel sancsiynau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhybuddion am gyfnod penodol o amser
  • ymgymeriadau – cytundeb rhwng y gweithiwr cofrestredig a Gofal Cymdeithasol Cymru i gwblhau tasg benodol o fewn cyfnod penodol o amser
  • dileu trwy gytundeb – cais gan y gweithiwr cofrestredig i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr gofal cymdeithasol, y gallwn ei ystyried yn dibynnu ar natur ac amgylchiadau'r achos

Bydd rhybuddion ac ymgymeriadau yn ymddangos ar gofnod y person cofrestredig ar y gofrestr gofal cymdeithasol hyd nes iddynt ddod i ben.

Bydd dileu drwy gytundeb yn ymddangos mewn adran ar wahân o'r Gofrestr am gyfnod o 2 flynedd. Mwy o wybodaeth am chanlyniadau gwrandawiadau panel.

Er sylw: Bydd brifysgolion yn asesu pryderon a godir am fyfyrwyr gwaith cymdeithasol i ddechrau. Pe bai angen gweithredu ymhellach, byddwn yn ymchwilio i bryderon a godwyd am fyfyrwyr yn yr un modd ag unrhyw berson cofrestredig arall.

Cyflogwyr sydd am godi pryder am weithiwr

Mae'n ddyletswydd ar gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol i roi manylion i ni am unrhyw bryderon a allai fod ganddynt am berson cofrestredig cyn gynted â phosibl.

Pryd i gyfeirio gweithiwyr atom ni

Mae cyflogwyr yn chwarae rhan allweddol wrth asesu ac ymdrin ag unrhyw honiad (au) ynghylch addasrwydd gweithiwr i ymarfer.

Dylent atgyfeirio gweithwyr atom ar ddechrau eu prosesau, os ydyn:

  • yn weithiwr wedi cael ei atal neu ei ddiswyddo
  • mae'r gweithiwr wedi ymddiswyddo neu adael cyn cwblhau'r proses disgydblu a byddai’r canlyniad wedi bod yn ddiswyddiad
  • mae'r gweithiwr yn destun ymchwiliad heddlu neu ddiogelwch.

Fel arall, dylai cyflogwyr roi gwybod i ni ar ddiwedd eu proses.

Dylent rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda ni tra bod eu prosesau yn parhau, rhoi gwybod i ni pan fyddant wedi’u cwblhau a darparu tystiolaeth ategol berthnasol i ni. Os bydd gweithiwr yn gadael yn ystod ymchwiliad, byddem yn annog y cyflogwr i gwblhau’r broses ddisgyblu gan gynnwys y gwrandawiad.

Dylai cyflogwyr sydd am wneud atgyfeiriad godi pryder ar-lein.

Enghreifftiau o bryderon nad oes angen eu cyfeirio atom

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • materion cyflogaeth lle mae’r materion yn gysylltiedig â gwyliau blynyddol, absenoldeb hwyrni neu salwch
  • lle mae materion ar lefel isel neu pan fydd y cyflogwr, wedi cyhoeddi pryder, ond ni roddwyd sancsiwn disgyblu
  • pryderon na ymchwiliwyd ymhellach, ar ôl eu hystyried yn y lle cyntaf.

Camddefnyddio teitl gweithwyr cymdeithasol

Os yw cyflogwyr o'r farn bod rhywun yn gweithio neu'n galw ei hun yn weithiwr cymdeithasol, neu os nad oes ganddo'r cymwysterau sy'n ofynnol neu nad ydynt wedi'u cofrestru gyda ni dylent godi pryder ar unwaith.

Cytundebau cyfaddawdu

Pan fydd dyletswydd i atgyfeirio gweithiwyr atom, dylai cyflogwyr wneud hynny hyd yn oed os yw cytundeb cyfaddawd wedi’i lofnodi. Nid oes angen manylion arnom am unrhyw arian a delir ond mae angen i ni wybod y rhesymau dros y cytundeb cyfaddawdu.

Wrth ysgrifennu’r cytundeb, dylai cyflogwyr wneud yn glir nad yw unrhyw gymal cyfrinachedd yn berthnasol i wybodaeth a drosglwyddir i ni.

Rheolau a ddefnyddiwn i ymchwilio i bryderon

Mae rheolau yn nodi sut y gallem ymateb i honiad bod rhywun ar y Gofrestr yn anaddas i ymarfer. Maent yn dangos yr opsiynau sydd ar gael i'n tîm addasrwydd i ymarfer yn ystod y cam ymchwilio a'r broses ar gyfer delio â honiad ar lefel swyddog neu ei gyfeirio at banel addasrwydd i ymarfer. Os cyfeiriwyd eich achos atom ni ar neu ar ôl 1 Hydref 2022, bydd angen i chi edrych ar Reolau 2022.

Os cyfeiriwyd eich achos atom ni rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2022 yn gynwysedig, bydd angen i chi edrych ar Reolau 2020.

Os cyfeiriwyd eich achos atom rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2020 yn gynhwysol, byddwn yn ymchwilio ir achos gan ddefnyddio Rheolau 2018.

Os cyfeiriwyd achos atom rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018 yn gynhwysol, byddwn yn defnyddio Rheolau 2017.

Pan fydd pryder yn mynd i wrandawiad

Ar ôl ymchwilio i’r pryder a godwyd, efallai bydd angen i’r achos gael ei adolygu mewn gwrandawiad, a allai arwain at sancsiwn ffurfiol yn eich erbyn.

Am fwy o wybodaeth ar hyn a beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad ewch i wrandawiadau.

Gallwch hefyd weld os oes gan berson cofrestredig sancsiwn yn eu herbyn chwilio’r Gofrestr.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig