Jump to content
Cefnogi plant sy’n byw mewn cartref gofal plant preswyl i feithrin perthnasoedd â’u teulu
Share

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi plant sy’n byw mewn cartref gofal plant preswyl i feithrin perthnasoedd â’u teulu

Cyflwyniad i gefnogi plant sy’n byw mewn cartref gofal plant preswyl i feithrin perthnasoedd â’u teulu

I lawer o bobl ifanc, mae byw’n agos i’w teulu biolegol ac aros mewn cysylltiad â nhw yn rhywbeth y maent yn ei gymryd yn ganiataol. Fodd bynnag, yn achos plant sydd yn y system gofal, bydd eu perthnasoedd â’u teulu biolegol yn aml yn cael eu cyfyngu, eu pennu a’u rheoli gan bobl eraill.

Sut i hybu perthnasoedd diogel a phriodol â’r teulu

Dylech chi fod yn glir gyda’r person ifanc ynghylch pa aelodau o’i deulu y caniateir iddo eu gweld (yn cynnwys sut y gall eu gweld) a’i helpu i ddeall unrhyw gyfyngiadau.

Rhowch wybod i’r awdurdod lleol:

  • os yw’r person ifanc wedi treulio amser heb ei awdurdodi gydag aelodau o’i deulu
  • os ydych yn pryderu ynghylch y ffaith ei fod yn treulio amser gyda’i deulu
  • os yw’r person ifanc am ffurfio perthynas newydd.

Mae hawl gan bobl ifanc sydd heb berthnasoedd ystyrlon â’u teulu i weld Ymwelydd Annibynnol. Gall Ymwelwyr Annibynnol roi cyfle i blant ryngweithio mewn ffordd gadarnhaol â rhywun y tu allan i’r rhwydwaith o weithwyr proffesiynol y byddant yn cwrdd â nhw fel arfer. Dylai pob awdurdod lleol wneud defnydd o’r cynllun hwn.

Bod yn gadarnhaol a chefnogol am berthnasoedd teuluol

Rhaid i chi ddangos ymagwedd gefnogol a chadarnhaol at y perthnasoedd sydd rhwng y person ifanc a’i deulu. Gall hyn fod yn ddylanwad mawr ar ansawdd y berthynas honno a gallu’r person ifanc i’w thrafod â chi.

Hefyd dylech ceisio ffurfio perthnasoedd gweithio cadarnhaol ag aelodau o deulu’r person ifanc a chreu amgylchedd cyfforddus a chartrefol pan fyddant yn ymweld â’r cartref.

Helpu’r person ifanc i gofio dyddiadau pwysig

Dylech chi helpu’r person ifanc i gofio diwrnodau pwysig fel pen blwyddi yn y teulu ac achlysuron crefyddol a diwylliannol, er enghraifft, drwy ei helpu i gadw dyddiadur.

Treuliwch amser yn siarad â’r bobl ifanc am anrhegion priodol, cardiau a threfniadau i fynd i ddathliadau. Hefyd gallech eu helpu i wneud cardiau ac anrhegion.

Beth yw perthynas deuluol gadarnhaol?

Bydd yr amser y mae’r person ifanc yn ei dreulio gyda’i deulu yn gadarnhaol os yw:

  • yn ddiogel
  • yn llesol
  • yn rheolaidd
  • yn bwrpasol
  • yn ystyrlon
  • yn ysgogol
  • yn briodol
  • yn bleserus.

Gall y perthnasoedd a’r cyfathrebu rhwng y person ifanc a’i deulu fod ar lawer ffurf:

  • siarad dros y ffôn
  • tecstio
  • cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, Facebook, Snapchat, Instagram, WhatsApp
  • llythyrau
  • treulio amser wyneb yn wyneb.

Gall y perthnasoedd a’r cyfathrebu fod wedi’u goruchwylio neu heb eu goruchwylio.

Mae’n bwysig cofio bod goruchwylio cyfarfodydd yn golygu cynnwys trydydd person a fydd yn arsylwi’n uniongyrchol ar y rhyngweithio rhwng rhieni a phlant. Mae’n debygol y bydd y ddau barti yn cael bod y profiad hwn yn ddieithr ac anodd.

Cyngor ar gymorth cyn, yn ystod ac ar ôl treulio amser gyda’r teulu

Pan fydd y plentyn yn cyfathrebu â’i deulu, mae’n bosibl y byddwch yn ei weld yn ymddwyn mewn ffordd anarferol. Dylech chi benderfynu pwy fydd y person gorau i ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol i’r person ifanc cyn, yn ystod ac ar ôl treulio amser gyda’i deulu.

Cyn yr amser gyda’r teulu:

  • peidiwch byth â gorfodi’r person ifanc i weld ei deulu os nad yw’n dymuno
  • peidiwch byth â defnyddio perthnasoedd teuluol fel ffordd i fargeinio er mwyn rheoli ymddygiad anodd mewn plentyn; rhaid cofio bod ymddygiad anodd yn gallu bod yn fynegiant o’i deimladau
  • dangoswch agwedd gadarnhaol a chefnogol at deulu’r person ifanc
  • penderfynwch pwy yw’r person gorau i fynd â’r plentyn i dreulio amser gyda’i deulu.

Yn ystod yr amser gyda’r teulu:

Os mai chi sy’n goruchwylio, gofalwch:

  • eich bod yn gwybod beth yw amgylchiadau’r person ifanc
  • eich bod yn gwybod beth a ddisgwylir gan y teulu biolegol a beth a ddisgwylir gennych chi
  • bod y teulu wedi cael gwybod beth a ddisgwylir ganddynt
  • eich bod yn gwybod beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith; bydd hyn yn hanfodol i sicrhau bod pawb yn ddiogel ac i hyrwyddo cyfarfodydd cadarnhaol.

Ar ôl yr amser gyda’r teulu:

  • penderfynwch pa strategaethau cymorth fydd yn helpu’r person ifanc ar ôl treulio amser gyda’r teulu
  • penderfynwch pwy fydd y person gorau i’w gynorthwyo
  • dylech gofio, os yw’r plentyn yn ofidus, nad yw hynny o reidrwydd yn golygu bod yr ymweliad yn brofiad negyddol; gallai ddangos ei fod yn colli ei deulu ac yn eu caru. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd eich ffordd o ddehongli yn dylanwadu ar y dewis o wybodaeth i’w chofnodi am eu perthynas.

Adnoddau defnyddiol