Yr hyn rydych yn gorfod deall am y Deddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a beth maen nhw'n feddwl i chi
Beth yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol?
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (DGM) wedi bod mewn grym ers 2007 ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr.
Prif bwrpas y ddeddf yw hyrwyddo a diogelu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn fframwaith cyfreithiol. Mae’n gwneud hyn mewn dwy ffordd:
- drwy rymuso pobl i wneud penderfyniadau drostyn nhw’u hunain pryd bynnag y mae hyn yn bosibl, a diogelu pobl sy’n ddiffygiol o ran galluedd drwy ddarparu fframwaith hyblyg sy’n gosod unigolion wrth wraidd y broses o wneud penderfyniad
- drwy ganiatáu i bobl gynllunio ar gyfer dyfodol pan allen nhw fod yn ddiffygiol o ran galluedd
Mae’n diogelu pum egwyddor gyfreithiol:
1. Cymerwch yn ganiataol bod gan berson alluedd oni bai y profir fel arall
2. Peidiwch â thrin pobl fel pe baent yn methu gwneud penderfyniad oni bai bod pob cam ymarferol wedi ei gymryd i geisio eu helpu
3. Ni ddylid trin person fel pe bai’n methu gwneud penderfyniad oherwydd bod eu penderfyniad yn ymddangos yn annoeth
4. Dylech wneud pethau neu benderfyniadau dros bobl heb alluedd mewn ffordd sydd o fudd iddynt bob amser
5. Cyn gwneud rhywbeth i berson neu wneud penderfyniad ar eu rhan, ystyriwch a allech chi ddod i’r un canlyniad mewn ffordd sy’n llai cyfyngedig
Beth mae capasiti meddyliol yn ei feddwl?
Dychmygwch fod ymgynghorydd meddygol wedi eich cynghori i gael llawdriniaeth i osod penglin cyfan newydd.
- Oes rhaid ei gael?
- Os nac oes, pam ddim?
Yr ateb yw nac oes, sdim rhaid cael y llawdriniaeth os oes gennych y capasiti i wneud y penderfyniad.
Er mwyn arddangos ein galluedd meddyliol rhaid i ni:
- Ddeall gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad
- Cadw’r wybodaeth honno am yr holl amser sydd ei angen i wneud y penderfyniad hwnnw
- Pwyso a mesur y wybodaeth honno
- Cyfathrebu’r penderfyniad
Felly, pe taech chi’n egluro eich rhesymau am ymwrthod â’r llawdriniaeth wrth y meddyg, gan ddangos eich bod wedi deall ei gyngor ac wedi defnyddio’r wybodaeth honno i wneud eich penderfyniad, dyw'r meddyg ddim yn gallu eich gorfodi i’w chael.
Pan fydd amheuaeth ynglŷn â galluedd rhywun i wneud ei benderfyniadau ei hun, er enghraifft ynglŷn â beth i’w wisgo, neu ble i fyw, fe allai’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) fod yn berthnasol.
Sut rydym ni’n gwybod a oes gan rywun gyda dementia alluedd meddyliol?
Er mwyn penderfynu a oes gan berson y galluedd i wneud penderfyniad, rhaid i chi ateb dwy gwestiwn:
- Cam 1. Oes nam neu aflonyddwch sy’n amharu ar sut y mae meddwl neu ymennydd person yn gweithio? Os felly
- Cam 2. Ydy’r nam neu aflonyddwch yn ddigon gwael i olygu nad oes gan y person alluedd i wneud penderfyniad?
Rhaid gwneud yr asesiad ar gydbwysedd tebygolrwydd.
Ydy hi’n fwy tebygol nag annhebygol bod y person yn ddiffygiol o ran galluedd?
Cofiwch, nid yw diagnosis o ddementia’n golygu bod y person yn ddiffygiol o ran galluedd.
Dylid cefnogi pobl i wneud gymaint o benderfyniadau drostyn nhw’u hunain ag y gallan nhw.
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (DGM) wedi bod mewn grym ers 2007 ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr. Prif bwrpas y ddeddf yw hyrwyddo a diogelu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn fframwaith cyfreithiol.
Mae’n gwneud hyn mewn dwy ffordd:
- drwy rymuso pobl i wneud penderfyniadau drostyn nhw’u hunain pryd bynnag y mae hyn yn bosibl, a diogelu pobl sy’n ddiffygiol o ran galluedd drwy ddarparu fframwaith hyblyg sy’n gosod unigolion wrth wraidd y broses o wneud penderfyniad
- drwy ganiatáu i bobl gynllunio ar gyfer dyfodol pan allen nhw fod yn ddiffygiol o ran galluedd
Mae’n diogelu pum egwyddor gyfreithiol:
- Cymerwch yn ganiataol bod gan berson alluedd oni bai y profir fel arall
- Peidiwch â thrin pobl fel pe baent yn methu gwneud penderfyniad oni bai bod pob cam ymarferol wedi ei gymryd i geisio eu helpu
- Ni ddylid trin person fel pe bai’n methu gwneud penderfyniad oherwydd bod eu penderfyniad yn ymddangos yn annoeth
- Dylech wneud pethau neu benderfyniadau dros bobl heb alluedd mewn ffordd sydd o fudd iddynt bob amser
- Cyn gwneud rhywbeth i berson neu wneud penderfyniad ar eu rhan, ystyriwch a allech chi ddod i’r un canlyniad mewn ffordd sy’n llai cyfyngedig
Penderfyniad er budd y person
Dylid gwneud penderfyniadau ar ran person nad oes ganddo alluedd mewn ffordd sydd o fudd iddo, gan ystyried dymuniadau, credoau hysbys y person a’i les cyffredinol.
Er mwyn penderfynu beth sydd o fudd i berson sy’n ddiffygiol o ran galluedd, ystyriwch:
- Ei alluedd tebygol yn y dyfodol
- Ei ddymuniadau a theimladau yn y gorffennol a’r presennol
- Y credoau a’r gwerthoedd sy’n debygol o ddylanwadu ar ei benderfyniad
- Ffactorau eraill y byddai’r person yn debygol o’u hystyried
Mae cyfarfodydd er budd person yn dod â phobl ynghyd i wneud penderfyniadau anodd.
Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfodydd budd er mwyn helpu gyda’r broses o wneud penderfyniad.
Mae’n hanfodol cofio nad yw galluedd yn benderfyniad unigol ond yn benderfyniad penodol.
Er enghraifft, efallai bod person yn gallu gwneud dewisiadau am eu gweithgareddau o ddydd i ddydd ond yn ddiffygiol o ran galluedd mewn meysydd ariannol.
Mae ymgysylltu’r person yn y broses o wneud penderfyniadau, gwrando arno ac ystyried ei farn, dymuniadau a theimladau yn ganolog wrth wneud asesiad er budd.
Mae’n bwysig bod rhywun yn bresennol sy’n gallu cynrychioli buddiannau’r unigolyn hwnnw.
Gallai fod yn eiriolwr, neu aelod o’r teulu y gellir ymddiried ynddo ac sy’n gallu mynegi barn yr unigolyn ac nid eu barn nhw am yr hyn sydd orau.
Rhaid i chi fod yn gyfarwydd â’r DdGM a dylech gael mynediad i hyfforddiant priodol.
Beth mae'r Ddeddf yn feddwl i chi wrth gefnogi rhywun gyda dementia?
Rhaid i bopeth rydyn yn ei wneud fod yn gyfreithlon: rydych yn gweithio yn ôl y gyfraith.
Dychmygwch y canlynol:
1. Mae Mrs Evans yn fenyw 88 oed gyda diagnosis o ddementia fasciwlar. Mae angen dau berson arni i’w helpu yn y gawod. Pryd rydych chi’n awgrymu cawod mae hi’n gwrthod. Beth ydych chi’n wneud?
- Beth sydd rhaid ei ystyried?
2. Mae Mrs Lewis yn fenyw 63 oed yng nghyfnodau hwyr dementia frontotemporal. Dyw hi ddim yn defnyddio geiriau i gyfathrebu. Rydych chi’n sywi wrth ei helpu i wisgo ei bod hi’n gwingo mewn poen a rhoi cri bob tro rydych chi’n gwisgo ei bra amdani. Rydych chi’n dweud wrth ei merch eich bod yn credu bod gwisgo’r bra yn achosi poen iddi, ond mae’r ferch yn mynnu bod ei mam yn gwisgo’r bra.
- Beth ydych chi’n wneud? Beth sydd rhaid ei ystyried?
3. Cyrhaeddwch chi dŷ Mr Jones amser cinio. Rydych chi’n gweld Mr Jones, sy’n ddyn 76 oed gyda Chlefyd Alzheimer wedi’i wisgo mewn siwt gyda bag busnes yn ei law. Mae’n esbonio nad oes ganddo amser i ymwelwyr am ei fod ar ei ffordd i’r gwaith.
- Beth ydych chi’n wneud? Beth sydd rhaid ei ystyried?
Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o sut y gallwch weithredu egwyddorion y DdGM yn eich gwaith bob dydd.
Tra ei bod yn amhosibl rhoi ateb syml i unrhyw un o’r sefyllfaoedd uchod, rhaid i’ch meddylfryd fod yn unol â’r DdGM.
Egwyddor 1: Cymerwch yn ganiataol bod gan berson alluedd oni bai y profir fel arall
Mae ein man cychwyn bob amser yr un. Oes ganddo/ganddi y capasiti i wneud y penderfyniad penodol hwn?
Os ydy’r ateb yn “oes”, allen ni ddim gorfodi Mrs Evans i gael cawod neu rwystro Mr Jones rhag gadael y tŷ.
Os, ar ôl pwyso a mesur y tebygrwydd, rydym yn credu bod diffyg capasiti ar berson i wneud y penderfyniad hwnnw, rydyn ni'n gweithredu egwyddorion y DdGM a chyfiawnhau ein rhesymeg yng nghofnodion y person.
Cofiwch mai man cychwyn yw cymryd bod gan y person gapasiti.
Egwyddor 2: Peidiwch â thrin pobl fel pe baent yn methu gwneud penderfyniad oni bai bod pob cam ymarferol wedi ei gymryd i geisio eu helpu
Rhaid i ni feddwl am gyfathrebu. Ydyn ni wedi dibynnu ar gyfathrebu ar lafar pryd byddai’r person yn ymateb yn well i gyfathrebu di-eiriau? Ydyn ni wedi symleiddio’r dewisiadau?
Er enghraifft, tasen ni’n gofyn i Mrs Lewis a ydy hi eisiau gwisgo bra heddiw, mae’n bosibl nad yw hi’n gallu gwneud penderfyniad.
Ond tasen ni’n dangos y bra iddi a dangos ein bod yn rhoi’r dewis iddi drwy ystumiau wyneb a rhoi dewis o atebion ‘ie’ neu ‘na’, mae’n bosibl y gallai hi wneud y penderfyniad ei hunan.
Egwyddor 3: Ni ddylid trin person fel pe bai’n methu gwneud penderfyniad oherwydd bod eu penderfyniad yn ymddangos yn annoeth
Rhaid i ni ofyn a ydyn ni’n gwneud y penderfyniad ar sail barn bersonol o ystyried rhywbeth yn annoeth.
Efallai rydyn ni’n meddwl ei bod yn ddoeth cael cawod bob dydd ond efallai mae Mrs Evans wedi ymolchi unwaith yr wythnos erioed.
Egwyddor 4: Dylech wneud pethau neu benderfyniadau dros bobl heb alluedd mewn ffordd sydd o fudd iddynt bob amser
Rhaid i ni ystyried yr hyn sydd er budd i’r person.
Oes angen i Mrs Evans gael cawod nawr? Oes dewis arall? Fyddai’n well ganddi ymolchi gyda chadach a bowlenaid o ddŵr twym? Ydy’r ffaith bod dau berson yn bresennol yn ei gwneud hi’n anghyfforddus, lle byddai hi’n hapus gyda dim ond un?
Ydy e er budd i Mrs Lewis wisgo bra, neu ydyn ni’n gwneud hyn er mwyn gwneud ei merch yn hapus?
Egwyddor 5: Cyn gwneud rhywbeth i berson neu wneud penderfyniad ar eu rhan, ystyriwch a allech chi ddod i’r un canlyniad mewn ffordd sy’n llai cyfyngedig
Posibl byddwch yn penderfynu peidio â chefnogi Mrs Evans i gael cawod ar yr ymweliad hyn ond byddwch yn cynnig ymolch cyflym.
Efallai gallen ni geisio eto yfory, neu amser gwahanol o’r dydd. Gallwch gytuno bod Mrs Lewis yn gwisgo fest yn hytrach na bra.
Gallen dynnu sylw Mr Jones rhag gadael am y gwaith, neu efallai cerdded gydag e am dro bach, ond allen ni ddim eu rhwystro rhag gadael ei dŷ ei hunan, hyd yn oed os ydyn ni’n meddwl y gall e gael niwed.
I wneud hynny, byddwn ni’n atal ei ryddid a gall hyn gael ei ystyried yn garcharu anghyfreithlon, sy’n cael ei gosbi o dan y DdGM.
Os oes unrhyw amheuaeth gennych am gapasiti person i wneud penderfyniad, rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddog uwch a chofnodi hyn yn briodol.
Does dim disgwyl i chi wneud penderfyniadau ar ran person sydd â diffyg capasiti; eich cyfrifoldeb chi yw nodi eich pryderon ac edrych am gyngor pellach.
Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS)
Mae adegau lle gall rhyddid person fod yn gyfyngedig er mwyn ei rwystro rhag cael niwed.
Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhwystro rhywun rhag gadael cartref gofal drwy gloi’r drws ffrynt, rhag ofn iddo gael ei anafu ar ffordd brysur.
Mae’r DdGM yn ein caniatáu ni i wneud hyn gan ystyried budd y person, ond rhaid i ni gael ein hawdurdodi i’w wneud.
Mae Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLs) yn ddiwygiad i’r DdGM, ac yn drefniadau sy’n amddiffyn person, nad oes ganddo’r galluedd i roi caniatâd o ran gofal a thriniaeth, er mwyn ei gadw’n ddiogel rhag niwed.
Efallai y bydd y Llys Diogelu’n awdurdodi amddifadu person o’i ryddid yn ei gartref ei hun, cartref gofal neu ysbyty.
Mae gwneud cais am awdurdodiad yn gymhleth ac yn fiwrocrataidd ac, ym mis Mawrth 2014, daeth Pwyllgor Dethol yn Nhŷ’r Arglwyddi i benderfyniad nad oedd y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn addas i’r pwrpas, gan argymell eu disodli.
Cyflwynwyd y Bil Capasiti Meddyliol i Dŷ’r Arglwyddi 3 Gorffennaf 2018 ac mae’n edrych i newid y sustem presennol drwy:
- gyflwyno proses symlach sy’n ymgynnwys teulu’n fwy ac yn rhoi mynediad cyflymach i asesiadau
- bod yn llai o faich ar bobl, gofalwyr, teuluoedd ac awdurdodau lleol
- gadael y GIG, yn lle’r awdurdodau lleol, i wneud penderfyniadau am eu cleifion, gan greu proses fwy effeithlon ac atebol
- ystyried ataliadau ar ryddid pobl fel rhan o’u pecyn cymorth cyffredinol
- cael gwared ar aml asesiadau wrth i berson symud rhwng cartref gofal, ysbyty ac ambiwlans fel rhan o’i driniaeth.
Cyflwyno cyfraith newydd i ddiogelu pobl agored i niwed mewn gofal (Saesneg yn unig)
Trefniadau Diogelu Amddiffyn Rhyddid (LiPS)
Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU wedi derbyn yr hyn y mae Comisiwn y Gyfraith yn ei gynnig i ddisodli DoLS.
Bydd y newidiadau i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cynnwys cynllun newydd o’r enw Trefniadau Diogelu Amddiffyn Rhyddid ac yn cryfhau hawliau pobl mewn meysydd fel penderfyniadau er budd.
Mae’r cynllun LiPS arfaethedig yn:
- berthnasol mewn unrhyw leoliad iechyd a gofal cymdeithasol, nid yn unig mewn cartrefi gofal ac ysbytai
- perthnasol i unrhyw un dros 16 oed yn hytrach na 18 oed, fel yn achos DoLS
- cyflwyno system amddiffyn dwy haen:
- Yn y mwyafrif o achosion, byddai’r 'corff cyfrifol’ (fel arfer yr awdurdod lleol ar gyfer achosion gofal cymdeithasol a’r GIG ar gyfer ysbytai) yn cynnal asesiad galluedd, gan wneud defnydd o asesiadau cyfredol lle y bo’n bosibl.
Bydden nhw hefyd yn asesu a yw’r trefniadau gofal a gynlluniwyd yn “hanfodol ac yn gymesur”.
Byddai adolygydd annibynnol wedyn yn cymeradwyo’r trefniant os yw’n fodlon.
- Ni fyddai Gweithiwr Proffesiynol Galluedd Meddyliol Cydnabyddedig (yn disodli rôl yr Aseswr Budd) ond yn rhan o achosion lle roedd y person yn gwrthwynebu i’w drefniadau achos neu wedi gwneud datganiadau blaenorol a fyddai’n dynodi gwrthwynebiad tebygol.
Rydym felly wedi cyrraedd trobwynt.
Ar hyn o bryd, mae nifer o weithwyr gofal yn y cartref yn mynd i mewn i dai pobl trwy gyfrwng sêff allwedd ac yn cloi’r drws pan fyddant yn gadael, oherwydd nad ydym am i’r person hwnnw ddod i unrhyw niwed.
Mae’n ymddangos y bydd angen iddyn nhw gael eu hawdurdodi i wneud hyn yn y dyfodol.
Mae diweddariadau i'r Bil ar gael (Saesneg yn unig)
Astudiaethau achos am y Ddeddf Capasiti Meddyliol a Threfniadau Colli Rhyddid (DoLS)
Adnoddau defnyddiol
Dysgwch fwy am y Ddeddf Capasiti Meddyliol a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).
Deddf Capasiti Meddyliol (2005) testun llawn (Saesneg yn unig)
Negeseuon allweddol am y Ddeddf gan y Gymdeithas Alzheimer (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth am DoLS gan y Gymdeithas Alzheimer (Saesneg yn unig)
Ymyraethau gofal cymdeithasol a hawliau dynol: canllaw ymarferwyr - mae'r astudiaeth achos gyntaf yn delio gyda Cholli Rhyddid a dementia (Saesneg yn unig)
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.