Ymunwch â ni yn y gynhadledd rithwir i’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar ddydd Mercher 9 Tachwedd, rhwng 9:30am a 1:15pm.
Y gynhadledd
Mae’r gynhadledd yn cychwyn ein gŵyl dysgu gydol oes.
Ein thema yw cefnogi a chryfhau dysgu o fewn y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant
Bydd ein Prif Weithredwr, Sue Evans yn agor y gynhadledd, cyn i ni glywed gan Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Byddwn yn clywed gan siaradwyr gwadd, gyda chyfle i chi ofyn cwestiynau, ynghŷd â thrafodaeth panel a sesiynau trafod ble gallwch rwydweithio gydag eraill.
Mae’r gynhadledd yn agored i unrhyw un sy’n gweithio gyda, neu sy’n ymwneud â’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gynnwys tiwtoriaid, awdurdodau lleol a dysgwyr.
Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg, a hefyd dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn ystod y digwyddiad.
Rhaglen y gynhadledd
9:30am: Cynhadledd yn cychwyn
9:45am: Croeso a threfniadau’r diwrnod, Sarah McCarty, Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
9:55am: Sylwadau agoriadol, Sue Evans, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru
10:05am: Araith y Dirwprwy Weinidog, Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
10:15am: Rocio Cifuentes MBE, Comisynydd Plant Cymru
10:40am: Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Rocio Cifuentes
"Dull gweithredu’n seiliedig ar Hawliau Plant: Y blynyddoedd cynnar a meithreinfeydd nas cynhelir"
10:45am: Egwyl (15 munud)
11am: Chantelle Haughton, Cyfarwyddwr Prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol
"Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL) – Y Sefyllfa Cyfredol; Pam ydyn ni’n poeni? Y terfyn uchaf a Chyfleoedd!"
11:25am: Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Chantelle Haughton
11:30am: Cyfle i rwydweithio mewn ystafelloedd trafod
11:45am: Trafodaeth panel gyda:
- Jonathan Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr, Estyn
- Kevin Barker, Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae, Arolygiaeth Gofal Cymru
- Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant, dysgu a datblygu, Mudiad Meithrin
12:15pm: Egwyl (10 munud)
12:25pm: Glenda Tinney, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
"Llwybrau a dulliau dysgu parhaus hyblyg i weithwyr y blynyddoedd cynnar"
12:45pm: Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Glenda Tinney
12:50pm: Cyfle i rwydweithio mewn ystafelloedd trafod
1:05pm: Sylwadau i gloi, Sarah McCarty, Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
1:15pm: Cau’r gynhadledd
Siaradwyr gwadd ac aelodau’r panel
Siaradwyr gwadd
- Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru
- Chantelle Haughton, Gweithiwr proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliol
- Glenda Tinney o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Aelodau’r panel
- Jonathan Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr, Estyn
- Kevin Barker, Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae, Arolygiaeth Gofal Cymru
- Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant, dysgu a datblygu, Mudiad Meithrin
Mae'r gynhadledd yn rhan o'r ŵyl dysgu gydol oes. Cofrestrwch ar gyfer yr ŵyl drwy'r ddolen isod.
Cofrestrwch nawr
Cofrestru ar gyfer yr ŵyl ddysgu gydol oes