Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Nid oes cymwysterau cyfredol wedi'u nodi ar gyfer y rôl hon.
Mae disgwyl i swyddogion cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol fod â gwybodaeth ymarferol ragorol am y cylch comisiynu strategol, a dealltwriaeth o ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.