Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn fframwaith sefydlu newydd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Byddai hyn yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i gynorthwywyr personol. Mae’n bosibl bod y rôl neu'r lleoliad yn newydd i'r gweithwyr.