Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer ymarfer:
Cymhwyster gofal cymdeithasol sy’n ymddangos yn y Fframwaith Cymwysterau hwn sy'n briodol ar gyfer y lefel a'r swyddogaeth.
ac/neu
Cymhwyster dysgu a datblygu sy’n cydymffurfio â’r Canllawiau Arfer Gorau ar gyfer Dysgu ac Asesu ym maes Gofal Cymdeithasol, Gofalu am Blant a Phobl Ifanc a’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru.