Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Lle nad oes gennych un o'r rhain ond bod gennych gymhwyster arall sy'n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu fel elfen atodol os ydych am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:
• am y tro cyntaf neu;
• symud i ran wahanol o'r Gofrestr.
Os hoffech ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad, a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o adnewyddu eich cofrestriad.
Os rydych wedi cofrestru gyda ni yn barod ac eisiau symud i ran arall o’r gofrestr, does dim angen anfon cais newydd. Dylech chi anfon e-bost at cofrestwyr@gofalcymdeithasol.cymru i ofyn i newid eich cofrestriad.
-
Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon
-
NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal
-
NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)
-
NVQ 4 Dyfarniad Rheolwr Cofrestredig
-
NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
-
neu
-
Tystysgrif Prifysgol De Cymru Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru)
ac
Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer. Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
Neu i bobl sydd wedi cofrestru cyn mis Mai 2013:
-
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru