Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Lle nad oes gennych un o'r rhain ond bod gennych gymhwyster arall sy'n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu fel elfen atodol os ydych am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:
- am y tro cyntaf neu;
- symud i ran wahanol o'r Gofrestr.
Os hoffech ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad, a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o adnewyddu eich cofrestriad.
Os rydych wedi cofrestru gyda ni yn barod ac eisiau symud i ran arall o’r Gofrestr, does dim angen anfon cais newydd. Dylech chi anfon e-bost at cofrestwyr@gofalcymdeithasol.cymru i ofyn i newid eich cofrestriad.
Os rydych yn barod wedi cofrestru fel rheolwr gofal cartref ac eisiau darparu gwasanaethau i oedolion, does dim angen i chi anfon cais arall. Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau’r adrannau gwasanaeth-benodol o’r Fframwaith Sefydlu sy’n berthnasol i oedolion i ddatblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar gyfer y gwasanaeth yma.
-
Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon
-
NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal
-
NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)
-
NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
-
-
Diploma mewn Rheoli Gofal Cartref
neu
-
Tystysgrif Prifysgol De Cymru Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru)
ac
Wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 5 Arwain a rheoli (unrhyw lwybr) Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 5 Arwain a rheoli (unrhyw lwybr) ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
Neu i’r rheini sydd wedi cofrestru cyn 2013:
-
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru