Jump to content
Y Cyfnod Sylfaen
Share

Mae'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant rhwng tair a saith oed, ac mae wedi'i ategu gan y fframwaith statudol Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen.

Rhoddir pwyslais ar blant ifanc yn dysgu drwy wneud pethau a rhoi mwy o gyfleoedd iddynt gael profiadau uniongyrchol drwy chwarae a dysgu gweithredol.

Mae'r Cyfnod Sylfaen yn seiliedig ar yr egwyddor y dylai darpariaeth y blynyddoedd cynnar gynnig sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol drwy gyfrwng cwricwlwm priodol i ddatblygiad. Mae’n bwysig bod lleoliadau gofal plant – ac yn arbennig lleoliadau sy’n gofalu am blant tair i saith oed – yn ymwybodol o egwyddorion y Cyfnod Sylfaen a'r saith maes dysgu.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am y gweithlu, gan sicrhau lefelau priodol o ran hyfforddiant a chymwysterau.

Dylai lleoliadau sy’n cynnig darpariaeth Cyfnod Sylfaen gyfeirio at y gofynion sy'n berthnasol i'r Cyfnod Sylfaen.

Rôl swyddi