Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod yr euogfarn o ymosod drwy guro plentyn a methiant i ddatgelu'r arestiad, y cyhuddiad neu'r euogfarn i'w chyflogwr, a brofwyd yn erbyn Carly Ann Isaac, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd i ymarfer presennol Carly Ann Isaac a'i fod yn gosod
Gorchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Carly Ann Isaac yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnwyd.
Mae gan Carly Ann Isaac yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru