Jump to content
Craig Chambers
Share
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Innovate Trust
Math o wrandawiad
Panel Addasrwydd i Ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod euogfarn o niwed corfforol gwirioneddol a defnydd o eiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus wedi’i brofi yn erbyn Craig Chambers, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu'r Panel fod nam ar ffitrwydd presennol Craig Chambers i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru. Bydd enw Craig Chambers yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i osod ar yRhestr o Bersonau a Dynnwyd.

Mae gan Craig Chambers yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Cafwyd Mr Chambers yn euog yn Llys y Goron Caerdydd o ymosod ar berson sy'n achlysuru niwed corfforol gwirioneddol, a defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol, neu sarhaus gyda'r bwriad o achosi ofn neu ysgogi trais.