Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod honiadau a brofwyd yn erbyn Jade Dominque Davies, gweithiwr gofal plant preswyl cofrestredig, o fethiant i gynnal ffiniau proffesiynol a/neu ffurfio perthynas amhriodol â phlentyn. Canfuwyd honiadau o anonestrwydd hefyd.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd i ymarfer presennol Jade Dominique Davies a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Jade Dominique Davies yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnwyd.
Mae gan Jade Dominique Davies yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru