Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi profi’r canlynol yn erbyn Leanne Gray, gweithiwr cofrestredig yn y cartref.
Methodd Ms Gray â chynnal ffin broffesiynol briodol â gŵr Unigolyn B ac ym mis Mawrth 2020 methodd â datgelu euogfarnau troseddol blaenorol (a restrir isod) yn ei chais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Twyll trwy gynrychiolaeth ffug
• Dwyn arian
• Bod yn feddw ac afreolus
• Ymosodiad trwy guro gweithiwr brys
• Torri Dedfryd Ohiriedig
• Gyrru cerbyd a yrrir yn fecanyddol ar ffordd/mewn man cyhoeddus heb ofal a sylw priodol
• Methu â stopio ar ôl damwain ar 26 Medi 2019
• Methu â rhoi gwybod am ddamwain ar 26 Medi 2019
• Methu â darparu gwybodaeth gyrrwr ynghylch hunaniaeth gyrrwr ar 5 Tachwedd 2019
• Ymosod drwy guro gweithiwr brys ar 13 Ebrill 2020
• Gyrru'n beryglus
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Leanne Gray i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru a bydd yn cael ei rhoi ar y rhestr o bobl a ddilëwyd.
Mae gan Leanne Gray yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru