Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod y cyhuddiad o euogfarn o dwyll drwy gamddefnyddio safle a bwrgleriaeth o anheddau a lladrad - dim trais, wedi'i brofi yn erbyn Ms Murphy, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Murphy i ymarfer a gosodwyd Gorchymyn Dileu sy’n golygu na all Ms Murphy weithio mwyach fel gweithiwr gofal cartref nac unrhyw rôl gofrestredig arall yng Nghymru.
Mae gan Ms Murphy yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru