Rydym yn deall bod cael eich cyfeirio atom yn gallu peri dryswch a thrallod. Rydym am helpu i’w gwneud hi’n haws i chi gymryd rhan yn yr ymchwiliad.
Bydd un swyddog addasrwydd i ymarfer yn rheoli eich achos; bydd yn deall beth sydd wedi digwydd a gall siarad â chi am eich achos ac ateb eich cwestiynau.
Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i chi am ein hymchwiliad.
Cysylltwch â’ch swyddog achos addasrwydd i ymarfer os oes angen help arnoch i:
- ddeall y llythyron a anfonwn atoch
- deall y broses
- ymateb i ni.
Mae gennym linell gymorth llesiant annibynnol a chyfrinachol am ddim a all roi cymorth i chi tra byddwch yn mynd drwy’r broses gwrandawiadau. Mae’n cael ei redeg gan Wellbeing Solutions ac mae ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ffôn: 0808 169 8691