Rydym yn deall bod y broses hon yn gallu peri dryswch neu drallod. Rydym am ei gwneud hi’n haws i chi gymryd rhan yn y gwrandawiad.
Os yw eich achos wedi symud ymlaen i wrandawiad, bydd eich swyddog achos addasrwydd i ymarfer yn siarad â chi am yr hyn beth fydd yn digwydd nesaf ac yn ateb eich cwestiynau.
Hefyd, gallwch gysylltu â’r tîm gwrandawiadau os bydd angen help arnoch i:
- ddeall y llythyron a anfonwyd atoch am wrandawiad
- deall proses y gwrandawiadau
- ymateb i ni am ddod i wrandawiad.
Cysylltwch â’r tîm gwrandawiadau ar:
Ffôn: 0300 303 3444
E-bost: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru
Cysylltwch â’ch swyddog achos addasrwydd i ymarfer os oes angen help arnoch i:
- ddeall y llythyron a anfonwyd atoch am yr ymchwiliad
- deall y broses ymchwilio.