Jump to content
Help a chyngor os ydych chi’n dyst neu os codoch chi bryder gyda ni
Share

Efallai y gofynnodd un o’n swyddogion achos i chi fod yn dyst i ni mewn gwrandawiad. Rydym yn deall y gall bod yn dyst achosi straen. Efallai na fyddwch yn siŵr beth i’w ddweud na sut bydd hyn yn effeithio ar eich perthnasoedd personol neu waith.

Rydym am helpu i’w gwneud hi’n haws i chi ddeall y broses a beth fydd angen i chi ei wneud.

Efallai eich bod yn defnyddio gofal a chymorth, yn un o gydweithwyr y sawl y mae ymchwiliad iddo, neu’n aelod o deulu rhywun sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei reoli gan un swyddog addasrwydd i ymarfer. Ni all siarad â chi am yr achos, ond efallai y gall roi diweddariad i chi a siarad am eich tystiolaeth.

Cysylltwch â’ch swyddog achos addasrwydd i ymarfer os oes angen help arnoch i:

  • ddeall y llythyron a anfonwn atoch
  • deall y broses.

Ble i gael help

Rydym yn deall eich bod, mae’n siwr, yn mynd trwy gyfnod anodd. Os ydych wedi codi pryder gyda ni neu os ydych chi’n dyst, gallwch ffonio ein gwasanaeth cymorth annibynnol, a gyflwynir gan Victim Support.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn wasanaeth annibynnol a all roi cymorth emosiynol cyfrinachol i chi, neu help a chyngor ymarferol. Daw’r cyngor gan dîm a hyfforddwyd yn arbennig.

Ffôn: 0808 196 8638 (ar gael o 8am tan 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: SocialCareWales@victimsupport.org.uk (ar gael rhwng 8am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener)

Mae galwadau i’r rhif hwn yn rhad ac am ddim. Os hoffech help mewn iaith arall yn ystod eich cysylltiad â Chymorth i Ddioddefwyr, byddant yn trefnu ac yn talu cyfieithydd i helpu.

Gallwch ffonio unrhyw bryd yn ystod y broses am unrhyw beth sy’n eich poeni chi am yr ymchwiliad. Gallwch ofyn am help a chyngor neu siarad am eich teimladau. Pan fydd yr ymchwiliad drosodd, gall Cymorth i Ddioddefwyr eich helpu i symud ymlaen.

Ni fyddant yn gwybod dim am eich achos oni fyddwch chi’n dweud wrthynt. Nid oes rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth bersonol os nad ydych am wneud. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth oni bai eich bod yn gofyn iddynt wneud.