Jump to content
Seremoni wobrwyo 2020, yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol
Share

Dysgwch fwy am enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau 2020 a gwyliwch seremoni wobrwyo 2020.

Seremoni wobrwyo’r Gwobrau 2020

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r Gwobrau 2020 yn rhithwir dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020.

Darlledwyd y rhaglen rithwir, a gafodd ei chyflwyno gan Garry Owen, cyflwynydd radio a theledu’r BBC, a Sue Evans, ein Prif Weithredwr, yn fyw ar YouTube.

Gwyliwch recordiad y seremoni ar YouTube.

Gwyliwch recordiad y seremoni gyda chyfieithiad Iaith Arwyddion Prydeinig ar YouTube.

Categorïau, enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gwobrau 2020

Dewiswyd 14 prosiect a phum gweithiwr gofal gan ein panel o feirniaid i gyrraedd rownd derfynol y Gwobrau 2020. Roedd chwe chategori ac un enillydd ym mhob categori.

Gwyliwch y fideos am ein holl brosiectau ysbrydoledig.

Adeiladu dyfodol disglair gyda phlant a theuluoedd

Dathlu prosiectau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i’w helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Enillydd

Gwasanaeth Mentor Rhieni Navigate @ Scope Ar gyfer ei brosiect yn cynnig cymorth pwrpasol i rieni sydd â phlentyn ar lwybr tuag at gael diagnosis o anabledd neu nam, neu sydd wedi cael diagnosis o fewn y 12 mis diwethaf. Mae’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol teilwredig i rieni a gofalwyr, sy’n eu helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Ar gyfer ei brosiect ‘Model Cymorth i Deuluoedd Conwy’, gyda phum tîm yn y gymuned yn cynnig cymorth i deuluoedd. Hefyd, mae’r prosiect wedi datblygu adnodd dwyieithog i’w ddefnyddio gyda theuluoedd i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, eu hanghenion a’u blaenoriaethau, cynllun gweithredu a llwybr at gymorth pellach.

Cyngor Bro Morgannwg – Ar gyfer ei brosiect ‘Gwasanaeth Rhianta Teuluoedd yn Gyntaf y Fro’ yn cynorthwyo teuluoedd i adeiladu ar eu cryfderau a gwneud newidiadau cadarnhaol, gan helpu rhieni i deimlo’n fwy hyderus i reoli ymddygiad, arferion a ffiniau. Mae’n canolbwyntio ar hybu llesiant emosiynol a chefnogi perthnasoedd teuluol cadarnhaol, ac mae’n elwa o gefnogaeth arbenigol gan fydwragedd.

Datblygu ac ysbrydoli gweithlu yfory

Dathlu prosiectau sy’n defnyddio dulliau effeithiol, creadigol ac arloesol o ddatblygu’r gweithlu er mwyn bodloni galw a disgwyliadau’r presennol a’r dyfodol.

Enillydd

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam – Ar gyfer ei brosiect ‘Outside In’, sef grŵp ffocws sy’n defnyddio ffyrdd arloesol i addysgu gweithwyr cymdeithasol y dyfodol. Mae ‘Outside In’ yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn dysgu o brofiad ac arbenigedd unigolion sydd wedi derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol ac iechyd.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Mudiad Meithrin – Ar gyfer ei adran hyfforddi a datblygu, sef ‘Academi’, sy’n cynnig cyfleoedd i staff a gwirfoddolwyr gofal plant, cyfrwng Cymraeg, ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau drwy ei raglen hyfforddi genedlaethol. Yn 2018-19, aeth mwy na 2,100 o bobl i 142 o gyrsiau Academi.

Tîm Partneriaeth Rhanbarthol Gwent – Ar gyfer ei brosiect ‘Consortiwm Coleg Gyrfa Gwent’, sy’n cynnig ymagwedd ymarferol at heriau recriwtio trwy gynnig dull cyfannol o ategu datblygu, cymhwyso a recriwtio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent.

Gwella gofal a chymorth yn y cartref gyda’n gilydd

Dathlu budd gweithio gyda’n gilydd i gefnogi llesiant pobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain.

Enillydd

NEWCIS, gogledd-ddwyrain Cymru Ar gyfer ei brosiect ‘Pontio’r Bwlch’, sy’n caniatáu i ofalwyr di-dâl fanteisio ar seibiannau hyblyg a dibynadwy. Mae’n caniatáu i ofalwyr gymryd seibiant fel y bo’n addas i’w hanghenion a gall gynorthwyo yn achos angen brys am seibiant.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y FflintAr gyfer eu prosiect yn darparu gweithgareddau ystyrlon yn ystod y dydd i fwy na 250 o bobl ag anableddau dysgu. Mae’r prosiect yn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, datblygu annibyniaeth a llunio cysylltiadau cymdeithasol a gwneud ffrindiau. Hefyd, mae’n gweithio gyda rhaglen byw â chymorth i helpu’r bobl y mae’n eu cynorthwyo, eu rhieni a’u gofalwyr, i fanteisio ar wasanaethau seibiant.

Ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig o weithio

Dathlu prosiectau sy’n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio i gefnogi’r bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol neu wasanaethau’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Enillydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Ar gyfer ei brosiect ‘Meddwl am y Baban’, dull arloesol a chreadigol o gynnig ymyrraeth gynnar effeithiol i deuluoedd mewn ymdrech i wella canlyniadau yn y tymor byr, canolig a hir. Mae’r prosiect yn rhoi cymorth cyn ac ar ôl geni i deuluoedd, gyda’r nod o ostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Cyngor Dinas Casnewydd – Ar gyfer ei fenter, ‘Project Perthyn’, sydd wedi ymrwymo i agor tri chartref newydd i blant yn ardal yr awdurdod lleol. Nod y prosiect yw dod â phlant yn ôl i Gasnewydd – i’w cartref, eu hysgol a’u teulu – ac mae’n helpu plant i aros yng Nghasnewydd trwy gynnig math gwahanol o brofiad gofal.

Cyngor Sir Gâr – Ar gyfer ei brosiect ‘We Can Run’, sy’n amcanu at wella iechyd a llesiant pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a hyrwyddo effeithiau cadarnhaol posibl bod yn egnïol ar eu hiechyd meddwl. Mae’r prosiect yn cynnig clwb rhedeg a chyngor ar ffordd o fyw, diet a maeth, ynghyd â gwasanaethau eraill, fel ffisiotherapi a phlatfform cyfathrebu i’w ddefnyddwyr.

Gwrando i a gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia

Dathlu prosiectau sy’n rhoi pobl sy’n byw gyda dementia wrth galon eu gwaith fel y gall y rhai sy’n byw gyda dementia cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Enillydd

Y Rainbow Centre, ger Wrecsam – Ar gyfer ei brosiect canolfan ddydd, sef hyb cymunedol pwrpasol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyriadau, fel grwpiau ymarfer corff a diddordebau cymdeithasol, allgymorth cymunedol a chyfeillio, ynghyd â chludiant cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli. Nod y prosiect yw hybu heneiddio cadarnhaol a rhoi grym i bobl hŷn fod mor annibynnol â phosibl ac ailgysylltu â’r gymuned leol.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Cyngor Gwynedd – Ar gyfer ei brosiect ‘DementiaGo’, sef gwasanaeth dwyieithog sy’n amcanu at roi cyfle i bobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, fod yn egnïol, cael hwyl a bod yn rhan o gymuned. Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys ymarferion i wella cryfder, cydbwysedd a chydsymud, i helpu gyda gweithgareddau bob dydd. Mae chwaraeon, fel tenis bwrdd, yn boblogaidd, felly hefyd cerddoriaeth, canu a dawnsio.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Ar gyfer ei phrosiect yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’n ymateb i bobl â dementia. Mae’r prosiect yn datblygu fframwaith dysgu a datblygu i’w staff a’i wirfoddolwyr, atgyfeiriadau mwy effeithiol, amgylcheddau ystyriol o ddementia a phartneriaethau gwell gyda gwasanaethau allweddol. Mae gan bobl sy’n bwy gyda dementia, a’u gofalwyr, llais cryf yng ngwaith y prosiect ac mewn cynlluniau at y dyfodol.

Gwobr Gofalwn Cymru

Mae’r wobr Gofalwn Cymru yn wobr newydd ar gyfer Gwobrau 2020. Mae’n dathlu gweithwyr gofal unigol yng Nghymru sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Enillydd

Sandra Stafford, gofalwr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Enwebwyd gan weithwyr cymdeithasol Danielle Dally a Sarah Vater.

Mae “gofalwyr maeth eithriadol” Sandra a'i gŵr Mark wedi bod yn ofalwyr maeth er 2001, yn dangos ymrwymiad ac angerdd ac yn darparu ansawdd uchel o ofal. Rhoddwyd un plentyn maeth gyda’r teulu ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty. Mae Sandra, fel y prif ofalwr, yn wynebu heriau bob dydd, ond cafodd y plentyn ei chroesawu gyda breichiau agored a rhoddwyd cariad, sefydlogrwydd a thosturi iddi, a fyddai’n ei galluogi i wneud cynnydd sylweddol wrth adfer. Darparwyd cartref diogel a chariadus i’r plentyn hwn, mae hi’n cael ei derbyn ac yn cael ail gyfle am fywyd ac i gyrraedd ei llawn botensial.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol

Andrew Mack, gweithiwr cymorth gofal i Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru yn Rhondda Cynon Taf - Enwebwyd Andrew gan Emma Baker, pennaeth seibiant a seibiannau byr yr elusen.

Enwebwyd Andrew am ei fod yn “weithiwr cymorth ymroddedig, greddfol sy’n cyfoethogi ac yn gwella bywydau pob plentyn a theulu y mae’n eu cefnogi”. Mae Andrew yn addasu ei ymagwedd at bob plentyn, gan feithrin perthnasoedd cryf gyda theuluoedd ac yn defnyddio offer cyfathrebu i ddeall eu meddyliau, dymuniadau, teimladau a dewisiadau. Mae e hefyd yn ymgorffori'r Côd Ymarfer, gan hyfforddi ei gydweithwyr i sicrhau cefnogaeth eithriadol i blant a'u gofalwyr. Disgrifir Andrew fel “unigolyn, gydweithiwr a gweithiwr cymorth eithriadol sy’n haeddu’r gydnabyddiaeth uchaf am ei ymroddiad, ei ymrwymiad a’i fedr”.

Jackie Moon, cynorthwyydd domestig yng Nghartref Porthceri i Bobl Hŷn yn y Barri - Enwebwyd Jackie gan reolwr gweithrediadau’r cartref, Marijke Jenkins.

Fel Hyrwyddwr Dementia Cartref, dechreuodd Jackie prosiect pontio’r cenhedloedd yn dod â phreswylwyr y cartref a phlant ysgol leol at ei gilydd bob pythefnos. Mae’r prosiect hwn wedi ysgogi ac ennyn diddordeb y preswylwyr a chynyddu hyder y bobl ifanc. Mae hefyd wedi helpu i chwalu stereoteipiau niweidiol a hybu mwy o ymdeimlad o gyd-barch a dealltwriaeth, gan ysgogi’r bobl ifanc i fod yn Gyfeillion Dementia a helpu i sefydlu cymuned leol sy’n deall dementia. Mae Jackie wedi ysbrydoli pobl eraill ac mae hi’n helpu i gyflwyno’r rhaglen hon ledled Bro Morgannwg.

Jayne Jenkins, gweithiwr gofal cartref i Dîm Bridgestart (CRT) ym Mhen-y-bont ar Ogwr - Enwebwyd Jayne gan Paul Jones.

Enwebwyd Jayne am ei gwaith yn gofalu am dad Paul Jones, a dderbyniodd gofal lliniarol ar gyfer canser angheuol. Chwaraeodd Jayne ran ganolog yn llesiant, ymwybyddiaeth ofalgar a phositifrwydd tad Paul, ac fe’i hanogodd i wenu, siarad a dod mor annibynnol ag y gallai fod yn ystod ei hymweliadau. Mae Paul yn disgrifio Jayne fel “gweithiwr proffesiynol o’r radd flaenaf”, “seren go iawn” a “thipyn o arwres”. Meddai Paul: “Dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod yn falch iawn o gael rhywun mor ymroddgar, cyfeillgar a brwdfrydig ynglŷn â’i rôl â Jayne yn gweithio gyda nhw”.

Kate Mellor, gweithiwr cymorth preswyl / gweithiwr allweddol yn QEWC yn Sir y Fflint - Enwebwyd Kate gan ei harweinydd tîm Curtis Baines.

Enwebwyd Kate am ei gwaith gyda'i phlentyn allweddol, y mae hi wedi bod yn ffigwr allweddol a chyson iddi, a’i model rôl/gwarcheidwad pwysicaf. Dros y tair blynedd diwethaf, mae Kate wedi adeiladu hyder y plentyn, ac wedi’i gweddnewid yn berson ifanc cryf, annibynnol a hyderus. Mae Kate yn hyrwyddo’n weithredol treftadaeth Lithwanaidd ei phlentyn allweddol ac yn aml yn mynychu ei digwyddiadau yn ei hamser rhydd. Mae Curtis yn disgrifio bond Kate gyda’i phlentyn allweddol fel un “arbennig iawn”, ac meddai, “allwn i ddim bod yn fwy balch o weld gwaith mor ardderchog ac anhunanol”.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig