Jump to content
Gwobrau 2023
Share

Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am y Gwobrau 2023.

Beth yw'r Gwobrau?

Mae'r Gwobrau yn wobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae'r gwobrau'n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr gofal unigol o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Mae ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer y Gwobrau 2023 wedi cau ac nid ydyn yn derbyn ceisiadau nac enwebiadau bellach.

Beth yw'r categorïau ar gyfer 2023?

Mae pum categori yn y Gwobrau 2023:

  • tri chategori ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
  • dau gategori ar gyfer gweithwyr gofal unigol.

Categorïau ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau

Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o waith sy'n newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i fywydau'r bobl y maent yn eu cefnogi.

Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd

Mae’r categori hwn ar gyfer mudiadau, lleoliadau neu brosiectau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a’u gofalwyr i’w helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt.

Gallai ceisiadau ddod o leoliadau gofal cymdeithasol preswyl, wasanaethau cymunedol neu wasanaethau statudol, fel y rheini sy’n cefnogi pobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar, cartrefi preswyl, gwasanaethau maethu neu fabwysiadu, neu waith ieuenctid. Neu gallai fod yn lleoliad blynyddoedd cynnar neu ofal plant sy’n rhoi cychwyn gwych iddynt.

Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu

Mae’r heriau a’r effaith a gafodd y pandemig ar y rheini sy’n gweithio yn y sector gofal wedi dangos pa mor bwysig yw helpu gweithwyr i gadw’n iach, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Yn y categori hwn, rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau rhagorol o’r canlynol:

  • sut mae cyflogwyr wedi cefnogi staff ers ddechrau’r pandemig
  • y camau hirdymor y mae cyflogwyr yn eu cymryd i ofalu am lesiant eu gweithwyr a’i wella.

Gallai’r camau hyn gynnwys cyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau sy’n dangos sut mae staff yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, fel newid y ffordd maen nhw’n gweithio a chynnig cymorth arbenigol pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae’r categori hwn yn agored i gyflogwyr neu dimau sy’n darparu gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar neu ofal plant yng Nghymru.

Cefnogi gofalwyr di-dâl

Yn y categori hwn, rydyn ni’n chwilio am dimau neu grwpiau o weithwyr sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl, megis y canlynol:

  • sicrhau nad ydynt dan anfantais na bod neb yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu rôl fel gofalwyr
  • helpu gofalwyr a’u teuluoedd ganfod beth sy’n wirioneddol bwysig iddynt a sut y gallant gyflawni hynny
  • trefnu gwyliau byr
  • hyfforddiant i helpu gofalwyr i ddysgu sgiliau newydd
  • cymorth gyda thechnoleg
  • rhoi gwybodaeth, cyngor a mynediad at adnoddau.

Gallai’r gefnogaeth hon ddod gan weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol neu ymarferwyr eraill.

Categorïau ar gyfer gweithwyr gofal unigol

Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am weithwyr gofal eithriadol sy'n mynd y tu hwnt i ofynion arferol eu rôl o ddydd i ddydd ac sy'n helpu pobl i gyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Gwobr arweinyddiaeth effeithiol

Rydyn ni’n chwilio am bobl i enwebu arweinwyr rhagorol ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd wedi gwneud y canlynol:

  • dangos tosturi yn y ffordd y maen nhw’n rheoli staff neu’n gweithio gyda chydweithwyr
  • helpu sefydliadau neu dimau sicrhau canlyniadau rhagorol i blant a phobl sy’n cael gofal a chymorth.

Does dim rhaid i’r arweinwyr hyn fod mewn swyddi uwch, a gallent fod yn unigolion neu’n dimau. Gallant fod ar unrhyw lefel yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.

Y peth pwysig yw eu bod wedi dangos arweinyddiaeth ragorol.

Gwobr Gofalwn Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl i enwebu gweithwyr eithriadol sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Gall y gweithwyr fod o unrhyw rôl yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, gan gynnwys gwirfoddolwyr. Gallant hefyd fod yn brentisiaid neu’n bobl sy’n astudio am gymwysterau tra byddant yn gweithio.

Y seremoni wobrwyo

Bydd seremoni wobrwyo Gwobrau 2023 yn cael ei chynnal ym mis Ebrill 2023. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda mwy o wybodaeth amdani yn nes at y dyddiad.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.