Os yw eich tîm, grŵp neu sefydliad wedi ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2023, dysgwch sut y bydd eich cais yn cael ei feirniadu, y dyddiadau i’w nodi a mwy
Y beirniadu
Mae dwy ran i'r beirniadu:
- Bydd ein panel o feirniaid yn sgorio'r holl gynigion ac yn cwrdd ym mis Rhagfyr i gytuno ar restr fer o'r ceisiadau â'r sgôr uchaf
- Gall y beirniaid ddewis cwrdd â'r cynigion ar y rhestr fer rhwng 23 Ionawr ac 10 Chwefror 2023. Yna byddant yn dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol ac enillwyr pob categori.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw'ch cais wedi cyrraedd y rhestr fer ym mis Ionawr 2023. Os bydd eich cais yn cyrraedd y rownd derfynol, byddwn yn rhoi gwybod i chi ddiwedd mis Chwefror 2023.
Cyhoeddir yr enillwyr yn y seremoni wobrwyo ym mis Ebrill 2023.
Sylwch y gall y beirniaid symud eich cais i gategori gwahanol os ydyn nhw'n teimlo ei fod yn briodol.
Y rheolau cystadlu
Dyma'r rheolau cystadlu ar gyfer y grwpiau, timau a sefydliadau sy'n ymgeisio yn y Gwobrau 2023:
Cyffredinol
- Mae mynediad am ddim
- Mae'r Gwobrau yn agored i dimau, grwpiau neu sefydliadau o'r sector gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
- Rhaid i'ch tîm, grŵp neu sefydliad fod wedi'i leoli ac yn gweithio yng Nghymru
- Rhaid bod peth o'r gwaith y cyfeiriwch ato yn eich cais wedi digwydd ers mis Tachwedd 2021
- Ni fyddwn yn derbyn unrhyw ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a'r amser cau.
Eich cais
- Rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais
- Rhaid i chi gadw at y terfyn geiriau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw ceisiadau sy'n mynd dros y terfyn geiriau
- Dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y ffurflen gais y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddant yn ystyried deunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
- Rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn rhywun o’ch tîm, grŵp neu sefydliad
- Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys i gyflwyno'r cais ar ran eich tîm, grŵp neu sefydliad
- Dylech gyfeirio at y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan weithwyr yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn eich cais.
- Dylech ddangos sut mae peth neu'r holl waith rydych chi'n cyfeirio ato yn eich cais yn newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl yr ydych yn eu cefnogi
- Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen gais i hyrwyddo'r Gwobrau
- Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn Ionawr 2023
- Ni fyddwn yn gallu dychwelyd eich cais.
Y telerau ac amodau
Dylech wneud yn siŵr eich bod wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau canlynol cyn anfon eich cais wedi'i gwblhau atom:
Cyhoeddusrwydd
Rhaid i'ch tîm, grŵp neu sefydliad gytuno y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar eich ffurflen gais i:
- hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
- rhannu ymarfer nodedig a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
Byddwn yn gwneud ffilm fer o’r holl brosiectau fydd yn cyrraedd y rownd derfynol a bydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.
Bydd y ffilmio yn debygol o ddigwydd ym mis Mawrth 2023 a bydd disgwyl i'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol sicrhau bod pobl ar gael ar gyfer y ffilmio. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn mwy o wybodaeth ym mis Chwefror 2023.
Gall pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.
Beirniadu
Bydd ein panel beirniaid yn dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.
Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r prosiectau a gofrestrwyd ar gyfer y Gwobrau.
Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn yn gohebu ynghylch eu penderfyniad.
Rhaid i brosiectau ar y rhestr fer fod ar gael i gael cyfarfod rhithwir gyda'n beirniaid rhwng 23 Ionawr ac 10 Chwefror 2023.
Y seremoni a'r gwobrau
Bydd enillydd pob categori yn ennill tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.
Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo'r Gwobrau, a fydd yn cymryd lle yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2023. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddynt roi gwybod i ni ymlaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.
Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o leoedd sydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.
Os byddwn yn darganfod bod ymgeisydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd yr ymgeisydd. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ar unwaith.
Dyddiadau pwysig i'w nodi ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 2 Tachwedd 2022
- Hysbysu'r rheini sy'n cyrraedd y rhestr fer: erbyn 12 Ionawr 2023
- Cyfarfodydd rhithwir rhwng y beirniaid â’r rheini fydd yn cyrraedd y rhestr fer: 23 Ionawr i 10 Chwefror 2023
- Cyhoeddi enwau'r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 27 Chwefror 2023
- Seremoni wobrwyo: Ebrill 2023