A wnaethoch chi enwebu gweithiwr ar gyfer y Gwobrau 2023? Darllenwch ymlaen i ddysgu sut y bydd eich enwebiad yn cael ei feirniadu, y dyddiadau i’w nodi a mwy
Y beirniadu
Bydd ein panel o feirniaid yn ystyried ac yn llunio rhestr fer o'r holl enwebiadau a dderbyniwn. Yna byddant yn cwrdd ganol mis Rhagfyr i benderfynu ar y rheini sy'n cyrraedd y rownd derfynol.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a'ch enwebai erbyn 10 Ionawr 2023 os byddant wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Cyhoeddir enw’r enillydd yn seremoni’r Gwobrau ym mis Ebrill 2023.
Y rheolau cystadlu
Dyma'r rheolau i ymgeisio ar gyfer gwobrau gweithwyr gofal unigol ar gyfer Gwobrau 2023:
Cyffredinol
- Mae mynediad am ddim
- Mae'r Gwobrau ar gyfer gweithwyr unigol yn agored i unrhyw weithiwr gofal cyflogedig, wirfoddolwr neu prentis sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
- Rhaid i weithwyr gofal a gaiff eu henwebu weithio yng Nghymru
- Rhaid bod y gwaith rydych chi'n cyfeirio ato ar y ffurflen enwebu fod wedi cael ei wneud ers mis Tachwedd 2021
- Ni allwch enwebu rhywun rydych chi'n perthyn yn agos iddo – er enghraifft, ni allwch enwebu'ch gwraig, gŵr, mab neu ferch – neu rywun rydych chi mewn perthynas bersonol â hwy
- Ni fyddwn yn derbyn enwebiadau ar gyfer mwy na dau aelod o staff o’r un gweithle neu sefydliad mewn unrhyw un categori
- Rhaid i'r gweithiwr gofal rydych yn ei enwebu weithio yn unol â'r safonau ymddygiad ac ymarfer a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
- Ni fyddwn yn derbyn unrhyw enwebiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a'r amser cau.
Eich enwebiad
- Rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen enwebu
- Rhaid i chi gadw at y terfyn geiriau – ni fyddwn yn ystyried unrhyw enwebiadau sy'n mynd dros y terfyn geiriau
- Dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y ffurflen enwebu y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddant yn ystyried unrhyw ddeunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
- Rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn ar eich cyfer chi a'r person rydych chi'n ei enwebu
- Rhaid i chi sicrhau bod gennych ganiatâd yr unigolyn rydych chi'n ei enwebu i'w henwebu cyn cyflwyno'r ffurflen
- Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ar y ffurflen enwebu i hyrwyddo'r Gwobrau
- Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich enwebiad erbyn Ionawr 2023
- Ni fyddwn yn gallu dychwelyd y ffurflen enwebu atoch chi.
Telerau ac amodau
Dylech wneud yn siŵr eich bod chi a’r person rydych chi’n ei enwebu wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau cyn i chi anfon eich enwebiad atom:
Cyhoeddusrwydd
Rhaid i chi a'r person rydych chi'n ei enwebu gytuno y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen enwebu i:
- hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
- rhannu ymarfer nodedig o bwys a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
Byddwn yn gwneud ffilm fer o'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol, a fydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.
Bydd y ffilmio yn debygol o ddigwydd rhwng Ionawr a Chwefror 2023, a bydd disgwyl i'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol fod ar gael ar gyfer y ffilmio. Byddwn yn anfon mwy o wybodaeth am y ffilmio at y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mis Ionawr 2023.
Gallai'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.
Beirniadu
Bydd ein panel beirniadu yn sgorio'r holl enwebiadau a dderbyniwn ac yn penderfynu pwy fydd yr enillydd a'r rheini fydd yn cyrraedd y rownd derfynol. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.
Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r gweithwyr gofal a enwebwyd ar gyfer y Gwobrau.
Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn yn gohebu ynghylch eu penderfyniad.
Y seremoni a'r gwobrau
Bydd enillydd pob categori yn cael tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.
Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo’r Gwobrau ym mis Ebrill 2023. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddynt roi gwybod i ni ymlaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.
Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o leoedd fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.
Os byddwn yn darganfod bod rhywun sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol neu eu henwebydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd y gweithiwr. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ar unwaith.
Dyddiadau pwysig i'w nodi
- Dyddiad cau enwebiadau: 5pm, 2 Tachwedd 2022
- Cyhoeddi enwau'r gweithwyr gofal unigol sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 11 Ionawr 2023
- Ffilmio rownd derfynol gweithwyr gofal unigol: 30 Ionawr i 17 Chwefror 2023
- Seremoni wobrwyo: Ebrill 2023