Jump to content
Seremoni y Gwobrau 2022: yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol
Share

Gwyliwch seremoni’r Gwobrau 2022, a dysgwch fwy am yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

Gwyliwch seremoni wobrwyo 2022

Cafodd seremoni’r Gwobrau 2022 ei chynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar 21 Ebrill 2022.

Cafodd y seremoni ei chyflwyno gan gyflwynydd teledu a radio, Garry Owen, a’n Prif Weithredwr Sue Evans, a chafodd ei darlledu’n fyw ar YouTube.

Gwyliwch recordiad o’r seremoni ar YouTube.

Categorïau, enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gwobrau 2022

Dewiswyd 14 prosiect a 10 gweithwyr gofal gan ein panel o feirniaid i gyrraedd rownd derfynol y Gwobrau 2022. Roedd saith categori ac un enillydd ym mhob categori.

Adeiladu dyfodol disglair gyda phlant a theuluoedd

Dathlu prosiectau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Enillydd: Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer y prosiect 'BG Hub'

Mae'r prosiect yn cefnogi plant rhwng 14 a 18 oed sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys plant sydd angen eu hamddiffyn a phlant sy'n derbyn gofal. Mae'r prosiect wedi creu gofod dan do ac awyr agored enfawr i blant, gan hyrwyddo gwaith grŵp a sgiliau a datblygiad byw'n annibynnol.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Mae'r prosiect hwn rhwng gwasanaethau cymdeithasol plant Sir y Fflint a Theatr Clwyd yn cynnig cyfle i blant agored i niwed a'u brodyr a chwiorydd dreulio amser yn Theatr Clwyd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Yn ystod y sesiynau hyn, gall teuluoedd gymryd seibiant o'u rôl gofalu gan wybod bod eu plant yn ddiogel, yn rhoi cynnig ar weithgareddau ac yn cael hwyl a sbri.

Rhaglen hyfforddeiaeth ddwy flynedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd wedi profi amser mewn gofal yw 'Camu i'r Cyfeiriad Cywir'. Mae 'Gofal i Waith' yn helpu'r rhai sy'n gadael gofal a phobl sydd wedi profi gofal nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith.

Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu

Noddir gan UNISON

Dathlu cyflogwyr sydd wedi cynnal a gwella llesiant staff.

Enillydd: Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am ei brosiect 'Attitude for Gratitude'

Cafodd y brosiect ei sefydlu gan Aloma Jones, rheolwr y tîm anabledd dros 25 oed. Fel rhywun a oedd yn poeni am lesiant staff, aeth Aloma ati i gynllunio sesiynau wythnosol lle'r oedd staff yn dysgu i ymarfer diolchgarwch a rhannu eu teimladau ag eraill. Mae hyn wedi helpu i hyrwyddo llesiant meddyliol ac wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y tîm.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Mae'r prosiect yn cynnwys staff drwy gynnal arolygon, grwpiau gorchwyl a sesiynau cyfathrebu i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud.

Mae'r prosiect wedi cefnogi llesiant staff drwy ddarparu pecynnau cymorth emosiynol ac ymarferol, buddion gofal, fel gofal deintyddol ac optegol a chymorth podiatreg, a thrwy gynnig ystod o hyfforddiant. Mae hefyd yn darparu gofal plant am ddim i weithwyr sy'n gweithio 30 awr neu fwy yr wythnos.

Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Noddir gan City & Guilds/CBAC

Dathlu sefydliadau sydd wedi cymryd camau i wneud eu gweithlu a/neu weithle yn fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol, neu wella'r ffordd maen nhw'n rhyngweithio â'r rhai maen nhw’n eu cefnogi i sicrhau eu bod i gyd yn cael eu trin yn gyfartal.

Enillydd: Adran gofal cymdeithasol a thai Cyngor Sir Penfro ar gyfer ei 'Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro’

Mae'r rhaglen yn annog pobl ag anabledd i anelu at weithio. Mae'n darparu swyddi â chymorth mewn pob math o sefyllfaoedd, o gaffis i weinyddu busnes ac o gynnal a chadw tiroedd i'r cyfryngau cymdeithasol. Ym mhob achos, mae pobl yn cael eu cefnogi'n llawn yn eu swydd.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Mae'r prosiect wedi sefydlu clybiau ieuenctid i roi cyfle i bobl ifanc gyfarfod mewn man diogel lle gallant fod yn nhw eu hunain, cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae'r prosiect hefyd yn trefnu sesiynau addysgol mewn ysgolion a cholegau, ac yn meithrin mentoriaid ifanc i gefnogi aelodau newydd.

Nod y prosiect yw cydgynhyrchu gwasanaethau gyda phobl ag anableddau dysgu a'u rhieni a'u gofalwyr. Ers hynny, mae 68 o brosiectau wedi'u sefydlu i gefnogi 'Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru 2018 i 2023' ac mae mwy na 125 o 'rolau' wedi'u creu ar gyfer dinasyddion a gofalwyr, gan adeiladu ar eu cryfderau unigol.

Cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia

Noddir gan Blake Morgan

Dathlu sefydliadau neu brosiectau sy'n rhoi pobl sy'n byw gyda dementia wrth wraidd eu gwaith, fel eu bod yn cael cefnogaeth i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Enillydd: Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro ar gyfer prosiect 'Cymunedau Cefnogol Dementia'

Mae’r prosiect yn ceisio gwella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r prosiect wedi creu rhwydwaith o grwpiau cymorth dementia i helpu pobl sy'n byw gyda dementia i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl, teimlo'n rhan o'u cymuned a theimlo'n hyderus, cael eu deall a'u parchu, ac i barhau i fwynhau eu hobïau a'u diddordebau.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth cyfannol sy'n cael ei arwain gan anghenion pobl sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid. Mae'r cymorth a ddarperir yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar ddementia, rheoli symptomau, cymorth ar gyfer materion seicolegol neu gymdeithasol (gan gynnwys cymorth i ofalwyr), cynllunio ar gyfer y dyfodol a chynllunio gofal ymlaen llaw, a gofal lliniarol a gofal diwedd oes a chymorth profedigaeth.

Mae'r ganolfan yn darparu cyfleoedd cymdeithasol i bobl sy'n byw gyda dementia, ac yn eu helpu i gadw eu hurddas a'u hymdeimlad o annibyniaeth. Ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 orfodi'r cartref i gau, fe wnaeth tîm y ganolfan ddydd addasu'n gyflym i barhau i ddarparu ffyrdd o gyfathrebu i deuluoedd ac anwyliaid, gan roi achubiaeth i'r bobl oedd yn defnyddio’r ganolfan ddydd.

Recriwtio a chadw staff yn effeithiol

Noddir gan Data Cymru

Dathlu sefydliadau sydd wedi llwyddo i recriwtio, datblygu a chadw staff medrus.

Enillydd: Seren Support Services, sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau byw â chymorth a gofal cartref i oedolion sy'n byw yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phowys.

Gan weithredu ar adborth sy’n dod gan staff, mae'r gwasanaeth wedi dod yn gyflogwr cyflog byw go iawn achrededig ac yn gwobrwyo staff sy'n dangos ymrwymiad i'r cwmni a'u datblygiad gyrfaol. Hefyd, mae'n cynnal arolwg staff ddwywaith y flwyddyn ac wedi sefydlu fforwm, lle gall staff ddweud eu dweud am benderfyniadau'r cwmni.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol: Village Support Services, sydd wedi'i leoli ym Mhontllanfraith, Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn darparu gofal cartref a chymorth i helpu oedolion i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Er mwyn cefnogi datblygiad staff, mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda grŵp hyfforddi Educ8 i gynnig cynllun prentisiaeth, gan roi cyfle i weithwyr ennill arian, profiad gwaith a chyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae hefyd wedi lansio cynllun 'gweithiwr y mis' i ddathlu llwyddiant staff.

Gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg

Dathlu unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg.

Enillydd: Alaw Pierce, Rheolwr Gwasanaeth Cyngor Sir Ddinbych

Enwebwyd Alaw gan Nerys Thompsett a Kathryn Whitfield ar ran tîm rheoli gweithredol Sir Ddinbych.

Mae Nerys a Kathryn yn disgrifio Alaw, a gafodd ei henwebu am ei gwaith yn hyrwyddo hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, fel “esiampl” i staff. Gydol ei gyrfa, mae Alaw wedi cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ac wedi annog diwylliant lle gall staff ddefnyddio'r Gymraeg yn gyfforddus yn y gwaith.

Mae Alaw wedi llwyddo i recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg i swyddi allweddol ac wedi hyrwyddo hawliau pobl hŷn i dderbyn asesiadau 'lles pennaf' yn Gymraeg.

Mae'r Cynghorydd Arwel Roberts, Hyrwyddwr Anabledd Cyngor Sir Ddinbych, yn disgrifio Alaw fel un sydd wedi "gweithio'n ddiflino dros y Gymraeg o fewn yr adran gwasanaethau cymdeithasol”.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

  • Keneuoe Morgan, Dirprwy Reolwr Cartref Preswyl Hafod Mawddach yn Abermaw, Gwynedd

Cafodd Keneuoe ei henwebu gan Catherine Ellis, Rheolwr Ardal Cyngor Gwynedd.

Un o Lesotho yw Keneuoe yn wreiddiol. Symudodd i'r Bala ym 1997 a dechrau gweithio i Gyngor Gwynedd, lle manteisiodd ar y cyfle i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan feistroli'r iaith yn y flwyddyn 2000. Mae Keneuoe bellach yn gweithio mewn cartref gofal, gan gefnogi pobl â dementia ac anghenion cymhleth.

Mae hyrwyddo hawliau pobl a chanolbwyntio ar yr unigolyn a'r hyn sy'n bwysig iddo yn rhan hanfodol o rôl Keneuoe. Drwy gyfathrebu â phreswylwyr yn yr iaith y maen nhw’n ei dewis, mae Keneuoe yn gallu meithrin perthynas â nhw a'u cefnogi, sy'n eu helpu i gynnal eu llesiant.

Mae Catherine yn disgrifio Keneuoe fel “ysbrydoliaeth i lawer o staff eraill sy'n dysgu Cymraeg, ac mae hi'n annog eraill i lwyddo”.

Enwebwyd Catherine gan Scott Robinson, rheolwr tîm ar gyfer gwasanaethau dydd preswyl a therapiwtig Cyngor Sir Ddinbych.

Cymraeg yw iaith gyntaf tua 90 y cant o drigolion y cartref gofal gwledig hwn y mae Catherine yn gweithio ynddo, ac mae Catherine yn rhoi cymorth a chysur amhrisiadwy iddyn nhw drwy siarad â nhw yn eu mamiaith. Roedd hyn yn arbennig o bwysig pan oedd y cyfyngiadau pandemig yn golygu nad oedd preswylwyr yn gallu gweld eu teuluoedd a’u ffrindiau wyneb yn wyneb.

Mae Scott yn disgrifio Catherine fel un sy'n “mynd yr ail filltir yn rheolaidd wrth ei gwaith. Mae'n weithiwr gofal ymroddedig ac yn arwain y tîm gydag enghreifftiau eithriadol o ymarfer da.”

Ychwanega Scott: “Mae'n bleser gweithio ochr yn ochr â hi, ac mae'r trigolion wrth eu bodd gyda hi.”

Enwebwyd gan Emma Quaeck, rheolwr Dementia Actif.

Mae Rachael yn ddysgwr Cymraeg sy'n gweithio i Dementia Actif, gwasanaeth dwyieithog sy'n darparu gweithgareddau i bobl sy'n byw gyda dementia yng Ngwynedd.

Yn ystod pandemig Covid-19, manteisiodd Rachael (sy'n siarad Saesneg fel iaith gyntaf) ar y cyfle i ddysgu Cymraeg drwy ymuno â gwersi Cymraeg ar-lein Cyngor Gwynedd, gan fynychu sesiynau tair awr ddwys bob wythnos. Gwnaeth Rachael gynnydd mawr, gan fagu digon o hyder i ddefnyddio'r Gymraeg wrth addysgu ei dosbarthiadau ymarfer corff ar-lein ac yn fwy diweddar mewn dosbarthiadau wyneb yn wyneb.

Yn ôl Emma, mae Rachael “wedi dangos ymrwymiad ac agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu Cymraeg” ac wedi gwneud pob ymdrech i ddefnyddio'r sgiliau a ddysgodd er budd pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth Dementia Actif. Drwy ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn ei dosbarthiadau ar-lein, mae Rachael hefyd wedi helpu dysgwyr eraill sy'n mynychu'r sesiynau i wella eu Cymraeg.

Enwebwyd Angharad gan Naima Dodd, Rheolwr Ardal Gwasanaethau Cymunedol Ocean.

Mae Angharad yn rheoli cartref gofal Tŷ Mynydd yn Nhreherbert ac mae'n swyddog Cymru i Ocean Community Services (OCS), sy'n rhedeg y cartref. Mae Naima yn disgrifio Angharad fel un sydd wedi “mynd yr ail filltir” wrth gyfieithu'r holl waith papur ar gyfer 15 cartref gofal OCS i'r Gymraeg.

Mae Angharad yn annog staff sy'n siarad Cymraeg i siarad yr iaith yn y gweithle. Mae hi hefyd wedi cyflwyno llofnodion e-bost dwyieithog ar gyfer yr holl staff ac wedi'u haddysgu i ateb y ffôn yn ddwyieithog.

Yn ogystal ag ysbrydoli'r tîm i ehangu eu defnydd o'r Gymraeg, mae Angharad hefyd wedi helpu un preswylydd yn y cartref i ddechrau gwersi Cymraeg sylfaenol.

Gwobr Gofalwn Cymru

Noddir gan Gofalwn Cymru

Yn dathlu gweithwyr gofal unigol yng Nghymru sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Enillydd: Keri Llewellyn, Rheolwr All Care (South Wales) Ltd

Enwebwyd gan Andy Cole, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Fesul Ardal, Cyngor Bro Morgannwg.

Mae Keri yn rheoli asiantaeth gofal cartref breifat ym Mro Morgannwg. Cafodd ei henwebu am ei hymrwymiad i wella bywydau pobl hŷn a dinasyddion agored i niwed yn y gymuned.

Yn ogystal â bod yn rheolwr gofal cartref, sefydlodd Keri Care Communities Acting Together (CCAT) er mwyn helpu i ddod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Mae wedi trefnu cinio Nadolig, pantomeimau, te prynhawn a 'diwrnodau rasio', heb dderbyn unrhyw arian ychwanegol.

Mae Andy yn disgrifio Keri fel un sy'n rhoi “anghenion dinasyddion wrth wraidd yr hyn mae'n ei wneud” ac yn dweud ei bod yn “haeddu clod a chydnabyddiaeth am y gwaith rhagorol ac arloesol mae wedi'i wneud... i ddiwallu anghenion y rhai mwyaf anghenus yn y gymuned”.

Yn ogystal â'i gwaith gyda CCAT, mae gan Keri rôl arwain hefyd ac mae'n cynrychioli'r sector gofal ar ystod o bwyllgorau, gan hyrwyddo statws gweithwyr gofal, gwella ansawdd gofal cartref a sicrhau bod pobl yn ganolog i'r holl benderfyniadau a wneir am eu gofal.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Enwebwyd gan Becky Hall, Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant, Clybiau Plant Cymru Kids' Club.

Disgrifiwyd Becci, sy'n hyfforddwr gwaith chwarae, fel rhywun sy’n “angerddol” am ofal plant y tu allan i'r ysgol.

Pan fu'n rhaid i Glwb y Ddraig, y clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol sy'n cael eu rhedeg gan Becci, gau yn ystod y pandemig, arhosodd Becci mewn cysylltiad rheolaidd â phlant a rhieni i'w helpu i deimlo bod y cyswllt yn dal yno a chefnogi eu llesiant.

Bu'n cysylltu'n rheolaidd â rhieni i gynnig cymorth, yn enwedig i'r rhai a oedd yn cael trafferth talu ffioedd ar ôl colli gwaith. Llwyddodd i leihau biliau, rhoi mwy o amser i rieni dalu, a gwrando arnyn nhw bob amser.

Pan ailagorodd Clwb, fe gododd Becci arian i greu llefydd chwarae awyr agored newydd mewn tri chlwb, yn ogystal â sefydlu dau glwb newydd yn ardal Rhondda Cynon Taf – camp “aruthrol” yng ngeiriau Becky. Dywedodd Becky fod Becci wedi cyflawni hyn i gyd pan oedd hi’n gweithio'n llawn amser fel hyfforddwr gwaith chwarae, gan baratoi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr chwarae.

  • Llinos Druce, gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Enwebwyd gan Cathy Mackenzie, Rheolwr Adran Adnoddau Pobl Agored i Niwed Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae Llinos yn weithiwr cymdeithasol i blant a phobl ifanc. Mae Cathy’n disgrifio Llinos fel “gweithiwr cymdeithasol eithriadol gydag ymrwymiad ac ymdrech ddifrifol i helpu'r holl blant mae hi'n gweithio gyda nhw i gyflawni eu breuddwydion”.

Mewn un achos arbennig o gymhleth, bu Llinos yn eirioli ar ran person ifanc yn ei gofal, gan amddiffyn hawliau'r person ifanc hwnnw i'r carn, sicrhau llais iddo a sicrhau bod pawb yn deall anghenion y person ifanc hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Gollodd Llinos ddim un cyfarfod am y person ifanc, hyd yn oed ar ei ddyddiau i ffwrdd, a bu'n eirioli cymaint drosto wnaeth yr awdurdod lleol ymladd yn ddiflino i sicrhau’r cymorth clinigol yr oedd ei angen.

Dywed Cathy fod Llinos yn dangos “dewrder” a “dycnwch” yn ystod yr achos, gan helpu i ddod o hyd i ffordd arloesol, bwrpasol o gefnogi a diogelu'r person ifanc.

  • Sheila Mullins, cynorthwyydd gofal yng Nghartref Gofal Dolwen, Dinbych

Enwebwyd Sheila gan Pamela Pack, rheolwr y cartref gofal.

Mae Sheila wedi'i henwebu am ei hymroddiad i drigolion y cartref y mae wedi gweithio ynddo ers 20 mlynedd a mwy. Mae Sheila bob amser yn mynd yr ail filltir i helpu'r bobl y mae'n gofalu amdanynt, gan roi nod iddi'i hun o adnabod pob unigolyn sydd dan ei gofal a darganfod y pethau bach sydd o bwys iddyn nhw.

Yn ystod Nadolig 2021, aberthodd Sheila amser gyda'i theulu ei hun i ofalu am nifer o drigolion oedd yn ddifrifol wael gyda Covid-19. Treuliodd Sheila amser gyda'r preswylwyr, gan afael yn eu dwylo a gwneud ei gorau glas i sicrhau nad oedden nhw ar eu pennau eu hunain yn ystod eu horiau olaf.

Mae Pamela’n cymeradwyo Sheila am ei hagwedd gadarnhaol, gan ddweud: “Hyd yn oed yng nghanol rhai o'n cyfnodau tywyllaf mae Sheila bob amser wedi dod o hyd i ffordd o gadw'n bositif ac roedd hynny'n heintus i staff a phreswylwyr fel ei gilydd.”

Ychwanega Pamela: “Mae'n anrhydedd adnabod rhywun fel Sheila sy'n ymroi'n llwyr i wella bywydau pobl eraill, a rhoi anghenion eraill o flaen rhai hi ei hun. Mae pobl fel Sheila yn brin fel aur.”

Enwebwyd gan Clare Dare, Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant, Clybiau Plant Cymru Kids' Club.

Mae Gwen yn rhiant-lywodraethwr Ysgol Bryn Derw, ysgol arbenigol yng Nghasnewydd ar gyfer plant ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth (ASD) ac mae'n gadeirydd ymddiriedolwyr gofal plant Oak Hill ASD Childcare.

Yn ystod y pandemig, datblygodd Gwen bwyllgor dan reolaeth gwirfoddolwyr i helpu teuluoedd oedd yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar ofal plant ag anghenion cymhleth. Cynhaliodd gyfarfodydd rhithwir wythnosol gyda'r nod o sefydlu gofal plant y tu allan i'r ysgol, a llwyddodd i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect. Diolch i waith Gwen, mae gofal plant cofrestredig bellach ar gael yn ystod y gwyliau.

Yn ôl Clare mae Gwen wedi “rhoi cymaint i'r clwb er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bob teulu”. Ychwanegodd Clare: “Mae gwaith Gwen o fewn y pwyllgor yn brawf mawr o'i dycnwch a'i hymdrechion i sicrhau bod pob plentyn yn cael y profiadau chwarae, yn ogystal â gofal plant o safon, y mae’n ei haeddu.”