Jump to content
Ymgeisiwch ar gyfer categori ‘Cefnogi gofalwyr di-dâl’ y Gwobrau
Share

A ydych chi wedi cefnogi gofalwyr di-dâl yn llwyddiannus ac yn effeithiol dros y ddwy flynedd diwethaf? Os felly, rydyn ni am glywed gennych.

Pwy all ymgeisio ar gyfer y categori?

Mae'r categori yn agored i unrhyw dîm, grŵp neu sefydliad sy'n darparu gofal cymdeithasol, a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Rydyn ni’n chwilio am geisiadau o bob maes – y sector gwirfoddol, preifat, cydweithredol a chyhoeddus. Gall y gofal a chymorth a ddarperir gennych fod yn ofal preswyl neu gymunedol, bach neu fawr. Gallwch chi fod yn gweithio gyda phlant, oedolion neu ofalwyr.

Bydd ein beirniaid yn chwilio am brosiectau sy'n dangos ffyrdd newydd o weithio ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i fywydau’r bobl y maent yn eu cefnogi.

Weithiau nid yw pobl yn sylweddoli pa mor drawiadol yw eu gwaith, felly os ydych chi'n gwybod am brosiect sy'n gymwys, anogwch nhw i gymryd rhan.

Sut i ymgeisio

I ymgeisio eich prosiect, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:

  • lawrlwythwch y ffurflen gais ar gyfer y categori y byddwch yn ymgeisio amdano isod
  • darllen y ffurflen a'r canllaw hwn cyn ei llenwi
  • darllen y rheolau mynediad a'r telerau ac amodau
  • llenwi’r ffurflen gais
  • anfon eich ffurflen wedi'i chwblhau atom yn gwobrau@gofalcymdeithasol.cymru erbyn 5pm ar 30 Tachwedd 2022.

Peidiwch ag anfon unrhyw beth heblaw eich ffurflen gais wedi'i chwblhau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw ddeunyddiau ychwanegol fel lluniau neu fideos.

Y beirniadu

Mae dwy ran i'r beirniadu:

  1. Bydd ein panel o feirniaid yn sgorio'r holl gynigion ac yn cwrdd ym mis Rhagfyr i gytuno ar restr fer o'r ceisiadau â'r sgôr uchaf
  2. Gall y beirniaid ddewis cwrdd â'r cynigion ar y rhestr fer rhwng 23 Ionawr ac 10 Chwefror 2023. Yna byddant yn dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol ac enillwyr pob categori.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw'ch cais wedi cyrraedd y rhestr fer ym mis Ionawr 2023. Os bydd eich cais yn cyrraedd y rownd derfynol, byddwn yn rhoi gwybod i chi ddiwedd mis Chwefror 2023.

Cyhoeddir yr enillwyr yn y seremoni wobrwyo ym mis Ebrill 2023.

Sylwch y gall y beirniaid symud eich cais i gategori gwahanol os ydyn nhw'n teimlo ei fod yn briodol.

Y rheolau cystadlu

Dyma'r rheolau cystadlu ar gyfer y grwpiau, timau a sefydliadau sy'n ymgeisio yn y Gwobrau 2023:

Cyffredinol

  • Mae mynediad am ddim
  • Mae'r Gwobrau yn agored i dimau, grwpiau neu sefydliadau o'r sector gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
  • Rhaid i'ch tîm, grŵp neu sefydliad fod wedi'i leoli ac yn gweithio yng Nghymru
  • Rhaid bod peth o'r gwaith y cyfeiriwch ato yn eich cais wedi digwydd ers mis Tachwedd 2021
  • Ni fyddwn yn derbyn unrhyw ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a'r amser cau (5pm ddydd Mercher, 30 Tachwedd 2022)

Eich cais

  • Rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais
  • Rhaid i chi gadw at y terfyn geiriau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw ceisiadau sy'n mynd dros y terfyn geiriau
  • Dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y ffurflen gais y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddant yn ystyried deunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
  • Rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn rhywun o’ch tîm, grŵp neu sefydliad
  • Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys i gyflwyno'r cais ar ran eich tîm, grŵp neu sefydliad
  • Dylech gyfeirio at y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan weithwyr yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn eich cais.
  • Dylech ddangos sut mae peth neu'r holl waith rydych chi'n cyfeirio ato yn eich cais yn newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl yr ydych yn eu cefnogi
  • Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen gais i hyrwyddo'r Gwobrau
  • Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn Ionawr 2023
  • Ni fyddwn yn gallu dychwelyd eich cais.

Y telerau ac amodau

Dylech wneud yn siŵr eich bod wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau canlynol cyn anfon eich cais wedi'i gwblhau atom:

Cyhoeddusrwydd

Rhaid i'ch tîm, grŵp neu sefydliad gytuno y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar eich ffurflen gais i:

  • hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
  • rhannu ymarfer nodedig a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.

Byddwn yn gwneud ffilm fer o’r holl brosiectau fydd yn cyrraedd y rownd derfynol a bydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.

Bydd y ffilmio yn debygol o ddigwydd ym mis Mawrth 2023 a bydd disgwyl i'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol sicrhau bod pobl ar gael ar gyfer y ffilmio. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn mwy o wybodaeth ym mis Chwefror 2023.

Gall pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.

Beirniadu

Bydd ein panel beirniaid yn dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.

Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r prosiectau a gofrestrwyd ar gyfer y Gwobrau.

Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn yn gohebu ynghylch eu penderfyniad.

Rhaid i brosiectau ar y rhestr fer fod ar gael i gael cyfarfod rhithwir gyda'n beirniaid rhwng 23 Ionawr ac 10 Chwefror 2023.

Y seremoni a'r gwobrau

Bydd enillydd pob categori yn ennill tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.

Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo'r Gwobrau, a fydd yn cymryd lle yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2023. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddynt roi gwybod i ni ymlaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.

Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o leoedd sydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.

Os byddwn yn darganfod bod ymgeisydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd yr ymgeisydd. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ar unwaith.

Dyddiadau pwysig i'w nodi ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 30 Tachwedd 2022 (ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau)
  • Hysbysu'r rheini sy'n cyrraedd y rhestr fer: erbyn 12 Ionawr 2023
  • Cyfarfodydd rhithwir rhwng y beirniaid â’r rheini fydd yn cyrraedd y rhestr fer: 23 Ionawr i 10 Chwefror 2023
  • Cyhoeddi enwau'r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 27 Chwefror 2023
  • Seremoni wobrwyo: Ebrill 2023